Rheolwr Datblygu Busnes

Cyflog
£31,980 y flwyddyn
Location
Canolfan y Celfyddydau Chapter, Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
11.04.2022
Profile picture for user Chapter Arts Centre

Postiwyd gan: Chapter Arts Centre

Dyddiad: 17 March 2022

Mae Chapter yn chwilio am Rheolwr Datblygu Busnes.

Mae’n gyfnod cyffrous i Chapter, a bydd gan yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus gyfle i ddatblygu eu hadran i ymateb orau i anghenion y sefydliad, gan gynnwys recriwtio Swyddog Datblygu Busnes. Mae Chapter yn elwa ar Dîm Rheoli Strategol profiadol, a fydd yn cydweithio gyda’r Rheolwr Datblygu Busnes i gefnogi nodau cyffredinol.

Diben y Swydd

  • Cyfarwyddo a datblygu rhaglen codi arian Chapter. Prif ffocws y rôl yw cefnogi Chapter yn ei huchelgais i fod yn llai dibynnol ar arian cyhoeddus i gefnogi ei rhaglen weithgarwch.
  • Gan weithio gyda’r Prif Weithredwr a’r tîm Rheoli Strategol, bydd y Rheolwr Datblygu Busnes yn gyfrifol am gyflawni lefel darged o incwm bob blwyddyn, gan ymddiriedolaethau, sefydliadau, sefydliadau’r llywodraeth, a rhoddion preifat a chyhoeddus.
  • Bydd yn gweithio ar draws timau yn y busnes i nodi cyfleoedd am gyllid, ceisiadau am gefnogaeth, a chynnal gweithdrefnau adrodd.
  • Bydd yn creu cynllun aelodaeth newydd sy’n cefnogi’r ganolfan gelfyddydau drwy ddyngarwch.
  • Mae angen profiad o godi arian a sicrhau cyllid o sawl ffynonellau.

Contract: Parhaol

Oriau gwaith: Croesewir ceisiadau am swydd llawn amser neu gellid rhannu dyletswyddau i weddu i gontractau llai o oriau. Nodwch yn eich cais.

Lleoliad:Gweithio hybrid. Er nad oes rhaid i ymgeiswyr fyw yng Nghymru o reidrwydd, bydd angen iddyn nhw fod yn Chapter ar ddyddiadau allweddol, a bod â dealltwriaeth o’r tirwedd ariannu yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth (yn cynnwys disgrifad sain) ac i wneud cais, gweler linc isod.

Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 11 Ebrill, 9am
Cynhelir cyfweliadau: Dydd Llun 25 Ebrill

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.