Datblygwr Gwe

Cyflog
£32,000 - £36,500 y flwyddyn
Location
Canolfan S4C Yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ
Oriau
Full time
Closing date
04.04.2022
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 15 March 2022

Pwrpas S4C yw gwasanaethu’r gynulleidfa gyda chynnwys sy’n diddanu, cyffroi ac sy’n adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae gennym ddyletswydd i greu llwyfan ac ecosystem i ysgogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio at bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol.

Rydym yn chwilio am Ddatblygwr Gwe profiadol sy’n gallu addasu i dechnolegau newydd a’u dysgu. Pwrpas y rôl yw i ddatblygu darpariaethau digidol S4C, gwella profiad y defnyddiwr, a chyflwyno nodweddion newydd ynghyd â datblygu llwyfannau a gwasanaethau newydd. Bydd y Datblygwr Gwe yn gyfrifol am wneud gwaith datblygu fel rhan o strategaeth ddigidol S4C.

Byddwch yn gyfrifol am waith datblygu a chynnal a chadw, gan gynnwys rhaglenni gwe, rhaglenni symudol, llwyfannau a gwefannau. Mae’r rôl hon yn rhan o’n Hadran Ddigidol a Marchnata ac mae’n rhan o’r tîm Datblygu.  Byddwch yn adrodd i’r Uwch Ddatblygwr.

Manylion Eraill

Lleoliad:                 Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ.

Rydym yn cynnig trefniadau gweithio’n ‘hybrid’ ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg.

Mae S4C yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn sgil Covid.  Mae’r gwaith paratoi er mwyn dychwelyd i’n swyddfeydd wedi cychwyn. Efallai y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad tra yr ydym yn cwblhau’r trefniadau.

Cyflog:                    £32,000 - £36,500 y flwyddyn

Cytundeb:               Parhaol

Oriau gwaith:         35¾ yr wythnos. 

Cyfnod prawf:        6 mis

Gwyliau:                 Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn:                Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 4 Ebrill 2022 at adnoddau.dynol@s4c.co.uk neu'r adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. 

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.  Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.