Sesiwn holi ac ateb gydag amrywiaeth o blith arbenigwyr y diwydiant.
5.30 - 7.30pm.
Yn cynnwys:
- Y cyflwynydd BBC, newyddiadurwr cerddoriaeth, cyflwynydd podlediadau ac awdur - Matt Everitt
- Artist, asiant perfformiadau byw, perfformiwr creadigol - Tumi Williams
- Y ffotograffydd cerddoriaeth o Gaerdydd a pherchennog Citrus Studio – Bethan Miller
- Awdur, y darlledwr a'r hyrwyddwr cerddoriaeth, Bill Cummings
Fel rhan o ŵyl Fringe BBC 6Music, mae Caerdydd Creadigol a'r Ysgol Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau a Diwylliant yn eich gwahodd i ymuno â ni am noson yn trafod beth mae'n ei olygu i fod yn newyddiadurwr cerddoriaeth.
Cofrestrwch yma.
________
Mwy am ein panelwyr:
Matt Everitt
Ganwyd Matt ychydig y tu allan i Birmingham i seiniau 'Mama Weer All Crazee Now’ gan Slade, oedd yn rhif un ar y pryd (rhywbeth mae wastad wedi ei ystyried yn ffodus). Arweiniodd hyn, ynghyd â gwylio ‘Rock In Rio’ gan Queen yn ei arddegau, at y penderfyniad mai cerddoriaeth oedd y ffordd ymlaen (fel yr oedd solos 12 munud ar y timpani).
Yn dilyn cyfnod sylweddol yn ardal Camden ganol y 90au, dechreuodd ddrymio gyda Menswear; grŵp yn nhrydedd adran Britpop heb unrhyw allu penodol, ond a lwyddodd i dalu'r biliau tan i ddiffyg cronig o ran caneuon roi taw arni.
Ar ôl ymuno â gorsaf radio amgen Llundain Xfm yn 2002, dechreuodd Matt ar yrfa'n cyfweld â cherddorion mwyaf dylanwadol y dydd. Datblygodd gyfres o ddogfennau/podlediadau llwyddiannus i Xfm gydag artistiaid yn cynnwys Muse, Foo Fighters, Arctic Monkeys a The White Stripes. Yn 2007, symudodd Matt i'r BBC, gan gyflwyno rhaglen gylchgrawn wythnosol BBC 6 Music The Music Week ac ymddangos yn ddyddiol ar The Shaun Keaveny Breakfast Show tan 2021.
Ochr yn ochr â 12 mlynedd yn cyflwyno newyddion cerddoriaeth bob bore, mae Matt hefyd wedi cynhyrchu rhaglenni dogfen i BBC Radio 4 a Radio 2 yn cynnwys cyfweliadau arbennig gyda gwesteion fel Syr Paul McCartney, Kate Bush, Axl Rose a The Who. Matt hefyd oedd un o'r bobl olaf i gyfweld â Prince (a wrthododd adael i Matt recordio eu sgwrs yn anffodus, ond mae'n mynnu ei fod wedi digwydd. Onest.)
Yn 2010 dyfeisiodd Matt yr hyn a fyddai'n dod yn brif gyfres cyfweliadau BBC 6 Music, The First Time. Mae bellach yn dechrau ar ei phymthegfed gyfres, ac yn canolbwyntio ar gyfweliadau dwys a dadlennol gyda rhai o artistiaid pwysica'r byd - gan gynnwys Radiohead, Metallica, Brian Wilson, Yoko Ono, Arcade Fire, Debbie Harry, George Clinton, Michael Stipe, Paul Simon, Janelle Monae, Trent Reznor ac Elton John.
Mae hefyd yn cyflwyno sioe wythnosol BBC 6 Music New Album Fix sy'n canolbwyntio ar adolygu albymau newydd gorau’r wythnos a chyfweliadau ag artistiaid.
Ers sefydlu ei gwmni cynhyrchu annibynnol ei hun Cup & Nuzzle, mae Matt hefyd wedi datblygu, cynhyrchu a chyflwyno podlediadau i Spotify, Amazon/Audible, Netflix a Grwpiau Cerddoriaeth Universal, Sony a Warners. Ymhlith cleientiaid cerddorol C&N mae Ystad David Bowie, Robert Plant, New Order, Pink Floyd, The Rolling Stones, Oasis a Jesse Ware’s Table Manners.
Yn 2018 cyhoeddodd Matt ddwy gyfrol - ‘Where’s My Welly? The World’s Greatest Festival Challenge’ a ‘The First Time – Stories and Songs From Music Icons’ oedd yn cynnwys 40 o gyfweliadau o'r gyfres radio.
Tumi Williams
Fel artist unigol rwyf wedi perfformio ochr yn ochr ag artistiaid fel Talib Kweli, Chali 2na, The Pharcyde, Jehst, Rag n Bone Man, Blackalicious, Ugly Duckling, Jungle Brothers, Ocean Wisdom.... Yn ogystal â chydweithio â rhai fel The Allergies, Mr Woodnote, Dr Syntax, TY, Sparkz, Truthos Mufasa, Unchained XL, Band Pres Llareggub, a llu o rai eraill. Yn 2020, daeth fy ngherddoriaeth yn fwy dylanwadol gyda chylchdroi trwm gan Lauren Lauverne (cerddoriaeth BBC6), Adam Walton (BBC Radio Wales), Jo Wiley (BBC Radio 2) a Tom Robinson (cerddoriaeth BBC6). Yn 2021 cefais fy newis yn un o bedwar artist fyddai’n perfformio I'w Mawrhydi y Frenhines adeg ailagor y Senedd.
Ar wahân i'm gwaith unigol, rwyf wedi bod yn llywio’r grŵp ‘monster funk’ Afro Cluster, ac rwyf wedi ysgrifennu, recordio a rheoli teithiau’n helaeth gyda'r grŵp yn ystod y degawd diwethaf. Rydym wedi ymddangos mewn gwyliau a digwyddiadau proffil uchel niferus, yn cynnwys SXSW, Glastonbury, Womad, Greenman, Boomtown a Bestival ac wedi teithio ochr yn ochr ag artistiaid fel Ibibio Sound Machine, Craig Charles, Gilles Peterson a Band Pres Hot 8. Rhyddhawyd ein halbwm ‘The Reach’ ym mis Chwefror 2021, a chafodd ei enwebu ar gyfer y Wobr Cerddoriaeth Gymreig.
Yn ystod y 13 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweithio gydag artistiaid amrywiol (Rhyngwladol a Chenedlaethol) ar deithiau ac mewn digwyddiadau o dan yr enw ‘Starving Artists’. Roedd y rhain yn cynnwys Souls Of Mischief, Band Pres Hot 8, People Under The Stairs, The late TY, Craig Charles, KRS One, Congo Natty, General Levy, Eva Lazarus, Jungle Brothers, Chali 2na, Black Sheep, Bumi Thomas.
Yn 2017, fe ddes i’n asiant archebu uwch ar gyfer "Bombarda Agency" gan ddefnyddio fy mhrofiadau a'm mewnwelediad fel artist i ddatblygu, cynrychioli a rheoli artistiaid. Ers 2009, rwyf wedi bod yn rhaglennu digwyddiadau ar gyfer “’Starving Artists’ a ‘Fiesta Bombarda’ o Lerpwl.
Rwyf wedi rhaglennu’r prif lwyfannau mewn Gwyliau fel Truefest (2017/2018) a Gŵyl y Llais (2018/2021). Yn ogystal â hyn rwyf wedi bod yn Gynrychiolydd/Llefarydd mewn gwyliau arddangos fel SXSW, WOMEX a Focus Wales.
Yn ystod 2020/21 fe fues i’n cadeirio/cynnal 12 o weminarau yn canolbwyntio ar Gerddoriaeth a Hil yng Nghymru lle cawsom sgyrsiau gydag aelodau o PRS, Undeb y Cerddorion a Chyngor Celfyddydau Cymru
Fel rhan o’m hymgais i gefnogi’r rhai a dangynrychiolir yn fy nghymuned, rwyf wedi datblygu fy sgiliau fel addysgwr. Rwyf wedi cynnal cyfres o weithdai cerddoriaeth/celf mewn ysgolion a sesiynau mentora ar gyfer sefydliadau fel Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, BLOCS/FOCUS Wales, Horizons/Gorwelion a Thŷ Cerdd. Mae hyn yn dangos fy ymroddiad nid yn unig i allbwn artistig ond hefyd i'r diwydiant a’r hyfforddiant cynyddol sy'n sail iddo.
Bethan Miller
“Fy enw i yw Beth, rwy'n ffotograffydd ac yn berchennog Citrus Studio, stiwdio ffotograffiaeth yng nghanol Caerdydd. Rwyf i wedi bod yn tynnu lluniau'n broffesiynol ers 2017 ac yn arbenigo mewn gwaith cerddoriaeth a phortreadau.
Rwyf i wrth fy modd gyda fy ngwaith am ei fod yn gallu rhewi eiliadau mewn amser, a chofnodi bywyd yn ei holl ffurfiau gwych a gwyllt. Does dim byd yn fwy hudolus i mi na chofnodi a dweud stori drwy ddelweddau. Boed yn gerddorion yn perfformio ar lwyfan, yn bortreadau ar gyfer brand neu gofnodi prydferthwch bywyd bob dydd; rwy'n mwynhau cyfleu personoliaeth popeth sy'n camu o flaen fy lens, gan archwilio delweddau gonest ond cyffrous sy'n para."
Bill Cummings
Fy enw i yw Bill Cummings. Pan oeddwn yn tyfu i fyny roeddwn yn gefnogwr brwd, a dechreuais ysgrifennu am gerddoriaeth o ddifrif ar ddechrau’r ganrif, gan weithio i Gair Rhydd, Sound Nation a ffansîns amrywiol. Yn 2003 sefydlais y gwegrawn God Is In The TV. Rydw i wedi bod yn olygydd ers bron i ddau ddegawd ac yn ystod y cyfnod hwn rydw i wedi bod yn awyddus i ni edrych ar y gerddoriaeth a'r diwylliant rydym yn angerddol yn eu cylch, gan hyrwyddo artistiaid Cymreig ac artistiaid newydd a sefydledig o bob rhan o'r DU waeth beth fo cam eu gyrfa. Rydym wedi bod yn llwyfan i awduron cerddoriaeth sy'n dod i’r amlwg hefyd, waeth beth fo'u cefndir. Mae'r rhai sydd wedi gweithio i ni wedi mynd ymlaen i ysgrifennu ar gyfer papurau’n cynnwys y Guardian, NME, The Line of Best Fit ac ati.
Ar hyn o bryd rwy'n cyd-gynnal podlediad o'r enw Show Me Magic. Rydym wedi cael amrywiaeth o westeion o gerddorion i newyddiadurwyr cerddoriaeth gan gynnwys The Anchoress, Carwyn Ellis, Mark Beaumont(NME), Anna B Savage, Dom Gourlay (Under the radar) a rhagor ynghyd â sioe gerdd newydd fisol ar Radio Glamorgan. Rydw i hefyd yn ysgrifennu cyfweliadau, ac erthyglau’n trafod y newidiadau presennol mewn cerddoriaeth.
Rydw i hefyd wedi gweithio ym maes hyrwyddo cerddoriaeth ers dros ddeuddeng mlynedd yn gweithio gyda Gorwelion yng Nghymru, Forte Project ac ar ymgyrchoedd ar gyfer artistiaid sy'n dod i'r amlwg a Chymreig megis Ani Glass, R.Seiliog, The Orielles, Adwaith a llawer mwy. Rydw i nawr yn ystyried symud i fentora a datblygu artistiaid.