1. HYRWYDDO A GRYMUSO GWEITHWYR LLAWRYDD
Mae wedi bod yn amlwg ers cryn amser, ac yn enwedig trwy gydol 2020, er gwaethaf eu pwysigrwydd a'u gwerth i'r sector, fod gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol i raddau helaeth heb eu mapio, heb gynrychiolaeth ddigonol ac wedi’u hanwybyddu. Byddwn yn archwilio pa rôl y gall Caerdydd Creadigol ei chymryd i ddeall anghenion gweithwyr llawrydd yn well yn y dinas-ranbarth a datblygu’r gweithredoedd a gweithgareddau mwyaf addas i’w galluogi.
2. HYRWYDDO A MODELU CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH A CYNHWYSIANT
Ein gweledigaeth yw i Gaerdydd gael ei gydnabod fel prifddinas creadigrwydd ac rydym yn cydnabod er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon, mae’n rhaid i economi greadigol y ddinas fod yn deg, cyfartal a chynhwysol. Rydym eisiau chwarae ein rhan yn cefnogi'r economi greadigol i gyflawni hyn ac yn gwybod bod yn rhaid i ni arwain drwy esiampl.
3. CASGLU, RHANNU A CHYFATHREBU’R DATA DIWEDDARAF
Sut mae'r gymuned greadigol yn deall data, ymgysylltu ag ef, a'i rannu? Hoffem archwilio pa rôl all Caerdydd Creadigol ei chwarae wrth weithredu fel canolfan ar gyfer casglu, arddangos a rhannu data i helpu unigolion a sefydliadau sy’n gweithio yn y sector i ymgysylltu â'r data sydd gennym.
4. FFOCWS AR ARLOESI, YN ENWEDIG O RAN TECHNOLEGAU NEWYDD A DIGIDOL
Mae Caerdydd yn ailddiffinio ei hun fwyfwy fel dinas greadigol ac, o fewn hynny, mae twf sylweddol wedi bod dros y pum mlynedd diwethaf – mae 16.5% o'i fusnesau bellach yn fentrau creadigol. Mae Caerdydd Creadigol wedi ymrwymo i weithio gydag eraill i ddatblygu ymyriadau strategol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol i yrru twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy. Mae'r ymyriadau hyn wedi'u cynllunio i ymateb i dechnolegau newydd, cynyddu’r gallu i arloesi ymhlith busnesau bach a chanolig (BBaCh), a mynd i'r afael â bylchau sgiliau’r sector. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu'r math hwn o gyfnewid gwybodaeth rhwng myfyrwyr, staff ac economi greadigol y ddinas.
5. YMGYSYLLTU Â PHARTNERIAID, RHANDDEILIAID A GALLUOGWYR
Mae gweithio gydag eraill wastad wedi bod yn rhan allweddol o strategaeth Caerdydd Creadigol. Rydym eisiau datblygu a gweithredu strategaeth bartneriaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf sy'n cynnwys strwythurau oddi fewn iddi sy'n ein caniatáu i gydweithredu yn (hyd yn oed yn fwy) effeithiol gydag ystod eang o bobl a all ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.