Mae Jannat yn Brif Olygydd yn Lucent Dreaming, cylchgrawn annibynnol a chyhoeddwr ffuglen, barddoniaeth a chelf hardd a swrrealaidd gan awduron/artistiaid newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg. Mae hi hefyd yn Swyddog Tanysgrifiadau a Marchnata yn Poetry Wales ac yn fardd ei hun. Cyfarfu â thîm Caerdydd Creadigol pan wnaeth gais llwyddiannus i fod yn dderbynnydd cyntaf y prosiect Ymlaen!
Ysgrifenna:
Mae'n debyg na fyddai Lucent Dreaming yn bodoli heddiw oni bai am Caerdydd Creadigol. Roeddwn yn ffodus ar ddiwedd 2017 i gael fy nghyfweld ar gyfer, a bod yn dderbynnydd cyntaf, ei gynllun peilot Ymlaen! Roeddwn wedi fy lleoli yn Rabble Studio – un o grewyr Ymlaen! – am chwe mis, a chefais arian sbarduno gan Santander Universities a mentora busnes gan dîm Caerdydd Creadigol, aelodau Rabble Studio, a’r tîm Menter ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd Caerdydd Creadigol yn llawer llai bryd hynny. Roedd ei swyddfa, a oedd ynghudd i lawr beth oedd yn teimlo fel set o risiau coll, yn gymysgedd anarferol o gartrefol a chyffrous.
Ond y bobl yn Caerdydd Creadigol a wnaeth fy mhrofiad mor wych a gwerth chweil. Gwnaeth y bobl y treuliais amser gyda nhw yn ystod fy lleoliad fy helpu i ddad-ddysgu fy niffyg hyder mewn gweithgareddau creadigol a busnes a oedd yn tanseilio fy hun. Dysgais, er gwaethaf yr holl bethau rhyfeddol yr oedd y bobl y cyfarfûm â hwy yn eu gwneud yn eu bydoedd creadigol, fod y bobl hyn yn gyffredin hefyd. Roedd yn galonogol gweld bod pobl a busnesau creadigol yn bodoli ac yn ffynnu yng Nghymru, ac yn y ddinas. Roedd yn galonogol cael Caerdydd Creadigol yn fy nghefnogi i ddod yn – a dal i barhau i ddod yn – un ohonynt
Trawsnewidiodd y lleoliad Ymlaen! a ddyluniwyd ganddynt Lucent Dreaming o gylchgrawn ar-lein yn unig i gylchgrawn print. Gyda chyllid sbarduno, roeddwn yn gallu rhoi arian tuag at ein rhediad argraffu cyntaf. (Mae gwerthiannau'r rhifyn blaenorol wedi talu am bob rhediad argraffu dilynol.) Gan fod y cynllun wedi'i deilwra ar gyfer busnesau creadigol, roedd yn pontio'r bwlch rhwng graddio a bywyd creadigol gweithredol, ond, yn llawer mwy gwerthfawr, rhoddodd gyfleoedd i mi gwrdd a chydweithio y tu allan i'm byd bryd hynny, nad oedd yn greadigol iawn. Yn syml, roedd yn wir yn caniatáu imi fod yn greadigol yng Nghaerdydd, rhywbeth nad oedd fy mhrofiad prifysgol bob amser yn ei ganiatáu i mi.
Mae Lucent Dreaming bellach wedi bod yn rhedeg am fwy na thair blynedd. Yn yr amser hwnnw – oherwydd y cylchgrawn – rwyf wedi rhoi cynnig ar bodledu, siarad cyhoeddus, a chynnal sioe gerdd. Fel busnes newydd, roedd mor werthfawr cael arbenigedd hygyrch gan ystafelloedd llawn pobl greadigol eraill, a sgyrsiau gyda nhw. Ac wrth i'r cynllun lleoliadau barhau, rwyf mor gyffrous i'w weld yn cyrraedd llawer mwy a fydd, fel fi, yn elwa o gyrraedd y rhwydweithiau, y mentoriaid a'r arweiniad y mae eu hangen arnynt i droi eu syniadau'n realiti. Llongyfarchiadau i Caerdydd Creadigol ar bum mlynedd rhyfeddol!