Mae Gareth wedi buddsoddi amser ac egni ym mhob agwedd ar y byd dechrau busnes yng Nghymru. Yn 2011, sefydlodd Welsh ICE, un o gymunedau entrepreneuriaid mwyaf y DU, sy'n cynnig mannau cydweithio a swyddfeydd i dros 200 o fusnesau arloesol. Yn 2017, sefydlodd TownSq i ddatblygu ei weledigaeth o ddod â mewnwelediadau ei waith yng Nghymru i entrepreneuriaid o amgylch gweddill y DU. Mae wedi bod yn aelod o Grŵp Cydweithio Creadigol Caerdydd Creadigol ers iddo ddechrau yn 2017 ac mae'n eiriolwr gwych dros adeiladu cymunedau a hybu unigolion.
Ysgrifenna:
Yn ystod y degawd diwethaf, mae'r chwyldro cydweithio – a welwyd ledled y byd – wedi creu cymunedau o weithwyr llawrydd a gweithwyr proffesiynol y diwydiannau creadigol sy'n gweithio ochr yn ochr ym mannau cydweithio ffyniannus Caerdydd.
TMae mor hudol pan welwch aelodau'n cwrdd â phobl ddieithr, yn meithrin perthnasoedd gyda nhw, ac yn creu rhywbeth mwy nag y gallent ar eu pen eu hun.
Gall yr ymdeimlad o ynysigrwydd a brofir mewn gyrfa fel gweithiwr llawrydd fod yn rheswm mawr i roi'r gorau iddi, a dyna pam rwyf mor angerddol am gydweithio. Pan wnaethom greu ein gofod cyntaf, dim ond pobl ysbrydoledig oedd gen i ddiddordeb i fod o’m cwmpas. Erbyn hyn, rydym yn gwneud hyn mewn cymunedau ledled y DU. Ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae mannau cydweithio yn cysylltu rhwydweithiau amrywiol o bobl i fasnachu a dysgu gyda'i gilydd. Maent yn creu cyfoeth lleol, yn cadw'r cyfoeth hwnnw yn eu cymunedau, ac yn creu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Tra oeddwn yn Brif Swyddog Gweithredol yn Welsh ICE yn 2016, cysylltodd Sara Pepper a’r tîm i egluro sut oedd Caerdydd Creadigol eisiau cefnogi’r grŵp cydweithio newydd ymhellach – gan gydnabod y rôl y gall mannau cydweithio ei chwarae ar gyfer y diwydiannau creadigol.
Mae Caerdydd Creadigol wedi creu platfform gwerthfawr i gymuned o fusnesau annibynnol gysylltu a rhannu, gan gydnabod yr hen ddywediad – mae’r llanw, ar lanw, yn codi pob cwch. Po fwyaf y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gydweithio, yn seiliedig ar drylwyredd ymchwil, y mwyaf cynaliadwy y daw ein mannau.
Mae rôl hefyd i lunwyr polisi gefnogi'r twf hwn, a chreu'r darnau hanfodol hyn o seilwaith cyhoeddus ar gyfer mwy o gymunedau. Mae mannau cydweithio yn dal i orfod delio ag ardrethi busnes uchel a dim llawer o ddiogelwch rhag landlordiaid. Mae Caerdydd Creadigol wedi rhoi’r amgylchedd inni drafod yr heriau hyn ar y cyd, trwy ffurfio’r Grŵp Cydweithio Creadigol, a’u codi gyda’r bobl a all wneud gwahaniaeth. Roedd cysylltu'r mannau yn rhoi grym iddynt. Ac mae'r grym cyfunol hwn, gyda chefnogaeth gwaith y tîm yn rhyngwladol, wedi codi proffil – ac wedi dangos gwerth – cydweithio yn ein rhan ni o'r byd.
Rydym o'r farn bod natur anrhagweladwy 2020 yn creu'r amodau perffaith i fwy o fannau cydweithio ffynnu am flynyddoedd i ddod. Nid yw pobl yn awyddus i ddychwelyd i'w swyddfa, gyda chefnogaeth ymchwil o astudiaethau dirifedi, neu eu taith i’r gwaith, hyd yn oed pan fydd yr argyfwng ar ben. Mae gan y newid arfer hwn un cafeat – mae pobl yn colli cyfeillgarwch y gweithle. Os gall mannau cydweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a thu hwnt, ddod yn lle lleol ar gyfer gofod meddwl, ar gyfer diwrnodau cynhyrchiol, ac ar gyfer coffi gyda rhywun sy'n gwybod beth rydych chi'n mynd drwyddo, yna mae ganddynt ddyfodol disglair. Credwn y gallwn dynnu ceir oddi ar y ffyrdd, gan fod o fudd i'r amgylchedd, ac adeiladu cymunedau lleol, rydym i gyd yn gwybod eu bod yn rhoi cymaint o werth.