Artistiaid Cyswllt

Cyflog
£750
Location
Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
24.01.2022
Profile picture for user NDCWales

Postiwyd gan: NDCWales

Dyddiad: 15 December 2021

Mae CDCCymru yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb gan wneuthurwyr dawns o Gymru neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i fod yn Artistiaid Cyswllt y cwmni, gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Artistig Matthew Robinson. 

Mae rhaglen Artistiaid Cyswllt CDCCymru yn gatalydd i gefnogi gwneuthurwyr dawns a datblygiad dawns fel ffurf gelfyddydol.

Dros gyfnod o ddwy flynedd, bydd yr Artistiaid Cyswllt yn ymgysylltu â'r cwmni ar nifer o brosiectau mewn gwahanol feysydd, wrth i’r cwmni ymrwymo i gefnogi'r artistiaid a ddewiswyd i ddatblygu eu prosiectau annibynnol eu hunain.

Rhagwelir y bydd y gydberthynas hon yn un chwilfrydig ac ymholgar o’r ddeutu, a'r berthynas yn un a fydd, gobeithio, yn datblygu ac yn trawsnewid y ddwy ochr.

Ar gyfer pwy mae hyn?

  • Gwneuthurwyr / coreograffwyr dawns o Gymru neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ar unrhyw adeg yn ystod eu gyrfa artistig broffesiynol
  • Artistiaid proffesiynol gydag ymarfer corfforol unigryw, wedi'i seilio ar unrhyw ffurf gorfforol
  • Pobl sydd â diddordeb mewn meithrin perthynas gydweithredol â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Am beth ydym yn chwilio?

  • Artistiaid coreograffig sy'n ymroi i ac wedi'u hysgogi gan chwilfrydedd, ar unrhyw adeg o'u gyrfa broffesiynol, o unrhyw gefndir symudiadau
  • Artistiaid sy'n rhannu ein gwerthoedd i fod yn chwilfrydig, yn gysylltiedig, yn hael ac yn ddewr
  • Artistiaid gyda syniadau beiddgar, sy'n dymuno cydweithio i ddatblygu'r ffurf gelfyddydol ac ehangu pwy sy'n ymgymryd ag a chyfranogi mewn dawns 

Byddwn yn dewis dau Artist Cyswllt drwy broses ddethol dau gam gan gychwyn gyda mynegiadau o ddiddordeb erbyn 17 Ionawr 2022.

Ewch i www.ndcwales.co.uk am ragor o wybodaeth.

Rydym am i hyn fod yn gyfle hygyrch i bawb, os oes gennych ofynion mynediad penodol ac eisiau rhagor o wybodaeth am y cymorth y gallem ei gynnig, cysylltwch â kelly@ndcwales.co.uk

Nod CDCCymru yw bod yn gwmni amrywiol a bywiog ac rydym yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb gan bobl o bob cefndir, rhyw a hil

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.