Ein chweched sesiwn Angen! Cael! Cydweithio! i gysylltu a chydweithredu ag eraill ar draws y gymuned greadigol
Yn siarad yn y digwyddiad roedd:
Aelodau o dîm creadigol BBC Cymru, a rannodd wybodaeth am eu Cronfeydd Talent i Weithwyr Llawrydd.
Mae BBC Cymru’n awyddus iawn i gwrdd a chysylltu ag amrywiaeth o weithwyr llawrydd creadigol o Gaerdydd a ledled Cymru a all fod â diddordeb mewn ymuno â'i gronfa dalent a gweithio iddo. O ddylunwyr i gyfarwyddwyr celf i bobl sydd wrth eu boddau’n gwneud fideos byr ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, mae’n awyddus i gwrdd â phobl â phrofiad ar bob lefel. Felly, os oes gennych ddiddordeb, ymunwch â’r cronfeydd talent!
Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael gan BBC i weithwyr llawrydd ar gael yma: https://www.bbc.com/freelancers/current-opportunities ac yma: Freelance Talent Pool: Designer, Marketing & Audiences BBC Cymru Wales | Jobs and careers with BBC
Ymhlith y cyfleoedd a rannwyd gan y gymuned roedd:
- Portffolio Coleg Caerdydd a’r Fro o gyrsiau hyfforddi a ariennir yn llawn, gan gynnwys Avid Pro Tools ac Avid Media Composer, a rannwyd gan Chris Duffy. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â Chris yn uniongyrchol yn: cduffy@cavc.ac.uk
- The People’s Poetry, rhaglen radio ddiweddar Clare Potter: https://www.bbc.co.uk/programmes/m00106t2
- Podlediadau diweddaraf Caerdydd Creadigol ar gyfer Get a 'Proper' Job a Rhywbeth Creadigol, a rannwyd gan Vicki.