Ydych chi’n rhywun sydd â’r sgiliau a’r galluoedd i gefnogi a chydweithio ag ystod o wneuthurwyr theatr i ddod â’u syniadau’n fyw trwy gynhyrchu cefn llwyfan?
Ydych chi’n dechnegydd neu’n rheolwr theatr medrus a all arwain a chefnogi timau creadigol i wireddu gwaith o’r safonau artistig a thechnegol uchaf?
Ydych chi’n angerddol am ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud theatr yn amgylcheddol gynaliadwy a rhannu gwybodaeth a sgiliau ar draws y diwydiant cynhyrchu byw?
Crynodeb o’r swydd
Gan weithio’n agos gyda’r Pennaeth Cynhyrchu ac aelodau o’r tîm ehangach, bydd y Rheolwr Cynhyrchu yn arwain ar brosesau sy’n sicrhau y darperir cynyrchiadau o’r safonau technegol ac artistig uchaf, wrth flaenoriaethu lles staff, iechyd a diogelwch a rheoli risg.
Bydd y rôl hon yn cefnogi’r Pennaeth Cynhyrchu i gyflawni ymrwymiad strategol NTW i roi cynaliadwyedd amgylcheddol wrth wraidd ei gynyrchiadau.
Bydd y Rheolwr Cynhyrchu hefyd yn cymryd rhan mewn ystod o fentrau gyda’r nod o hyrwyddo gwneuthurwyr theatr a digwyddiadau byw Cymru.
Gontract parhaol, amser llawn.
Cyflog: 35-38K y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad
Dyddiad cau: 26 Tachwedd, 5pm
Cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 6 Rhagfyr
Rydym yn annog ymgeiswyr i wneud cais mewn modd y maent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus a hyderus ynddo. Pa bynnag fformat y mae eich cais ynddo, dylai nodi pam rydych chi’n meddwl eich bod chi’n iawn ar gyfer y swydd hon. Gall rhai enghreifftiau o fformatau fod yn fideo wedi’i recordio neu’n recordiad sain (tua 5 munud) neu lythyr eglurhaol ysgrifenedig.
Anfonwch eich llythyr eglurhaol neu fideo atom gyda ffurflen gais wedi’i llenwi a’ch CV ynghyd â geirdaon i work@nationaltheatrewales.org. Hefyd cwblhewch ein ffurflen monitro Cyfle Cyfartal.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech siarad am a allai’r swydd hon fod yn addas i chi, cysylltwch â Ffion work@nationaltheatrewales.org.
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob cefndir. Gellir derbyn ceisiadau yn Saesneg neu yn Gymraeg.