Ym mhennod gyntaf cyfres tri o Get a 'Proper' Job mae Kayleigh McLeod yn siarad â Kayed Mohamed-Mason, prentis TikTok ar gyfer asiantaeth hysbysebu S3 yng Nghaerdydd a Rebecca Campbell, Partner Rheoli ar gyfer Datblygu’r Asiantaeth yn S3 Advertising am ddyfodol gwaith yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.
Yn benodol, byddwn yn edrych ar y mathau newydd o rolau y gallem eu gweld yn y dirwedd ddigidol sy'n esblygu'n barhaus.
Wrth drafod y sgiliau sydd eu hangen i fod yn brentis TikTok, dywedodd Kayed: "Mae angen i chi gael ymennydd sy’n gweithio’n gyflym - ar TikTok mae tueddiadau newydd yn codi o hyd, ac mae angen i chi allu cadw i fyny. Mae bron yn haws i mi nawr yn gweithio i frand a gyda chleientiaid ar TikTok oherwydd rwy’n gallu canolbwyntio ar un peth a meddwl, dyma beth sy'n digwydd felly sut ydw i’n gallu ei droi'n rhywbeth y mae'r cleient ei eisiau.
Os ydych chi'n gweithio i frand ar TikTok, mae angen i chi fod yn benagored ac edrych ar bopeth yn wrthrychol – sut mae hyn yn gweithio o safbwynt y brandiau?
Wrth sôn am gyfuno sgiliau digidol a chreadigol ym myd busnes, dywedodd Becky: "Mae cymaint o gyfleoedd i ddod â sgiliau digidol a chreadigrwydd a'u defnyddio i gyflawni nodau busnesau.
Os ydyn ni’n gallu cael mwy o bobl greadigol i ddefnyddio eu creadigrwydd yn y byd digidol, bydd hynny’n arwain at berfformiad gwell a fydd, yn y pen draw, yn gwella’r canlyniadau i fusnesau.
Cafodd y bennod hon ei recordio o bell ym mis Awst 2021.
Gwrandewch ar y bennod lawn:
iTunes:
Spotify:
Dolenni a rhagor o wybodaeth
- S3 Advertising
- Sut i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn tueddiadau newydd ym myd technoleg - Nesta
- Y Chwyldro Sgiliau Digidol Creadigol – Polisi a Thystiolaeth y Diwydiannau Creadigol
- Cyfrif TikTok Kayed Kill em with Kayedness
- Cyfrif TikTok S3
- Brand colur niwtral o ran rhywedd – Vulcan & Vixen
- Maethu Cymru
Argymhellion y gwesteion
Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job gan rwydwaith ddinesig Caerdydd Creadigol ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.
Gwrandewch ar benodau eraill o Get a 'Proper' Job yma.