Heddiw, cyhoeddodd Canolfan Mileniwm Cymru y lein-yp llawn ar gyfer ei phrif ŵyl gelfyddydol ryngwladol – sef Gŵyl y Llais – sy’n dychwelyd i Fae Caerdydd yr hydref hwn, rhwng 4–7 Tachwedd.
Mae ugain o artistiaid wedi eu cadarnhau ar gyfer perfformio ar lwyfan anhygoel Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn yr hyn fydd yn fersiwn mwy agos-atoch o’r ŵyl eleni – ac mae’r artistiaid hynny’n cynnwys ystod eang o berfformwyr, o’r rhai rhyngwladol ac adnabyddus i egin-artistiaid, ac yn cwmpasu amryw o genres ac arddulliau gwahanol.
Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cynnwys y cyfansoddwr Max Richter, sy’n perfformio am y tro cyntaf yng Nghymru gyda Sinfonia Cymru; Prif Anerchiad gan Brian Eno; Roger Eno; Arab Strap, y band roc indi o’r Alban a ailffurfiwyd yn ddiweddar; Hot Chip, y band synthpop o Loegr; Stella Chiweshe, y gantores a’r chwaraewr mbira dzavadzimu o Zimbabwe; Charlotte Church a’i Late Night Pop Dungeon; Drymio gyda Grŵp Colin Currie a’r Synergy Vocals; Tricky yn perfformio gyda band llawn byw; Kelsey Lu, y gantores a’r sielydd o America yn eu sioe gyntaf yng Nghymru; Juice Menace, yr artist rap o Gaerdydd; Anna Meredith o’r Alban, sy’n arbenigwr ar nifer o offerynnau; Gruff Rhys; yr act celf-pync Nuha Ruby Ra, a Ghostpoet.
Isod mae’r lein-yp llawn a threfn y digwyddiadau ar gyfer pob dydd:
- Dydd Iau – MAX RICHTER GYDA SINFONIA CYMRU | KELSEY LU | DRYMIO GYDA GRŴP COLIN CURRIE A’R SYNERGY VOCALS | PRIF ANERCHIAD GAN BRIAN ENO
- Dydd Gwener – HOT CHIP | TRICKY | RACHEL CHINOURIRI | JUICE MENACE
-
Dydd Sadwrn – CHARLOTTE CHURCH’S LATE NIGHT POP DUNGEON (After party) | GRUFF RHYS | BIIG PIIG | ANNA MEREDITH | SPRINTS | NUHA RUBY RA
-
Dydd Sul – ARAB STRAP | GHOSTPOET | ROGER ENO | STELLA CHIWESHE | ANI GLASS
Yn ogystal â’r prif ddigwyddiadau a gynhelir ar lwyfan eiconig Canolfan Mileniwm Cymru, y gellir prynu tocynnau ar eu cyfer, fe fydd yna amrywiaeth o berfformiadau, DJs, bwyd stryd a bariau’r ŵyl o amgylch yr adeilad, a’r rheiny’n agored i bawb eu mwynhau. Yn gynwysedig yn hyn bydd cyfres o ymyriadau creadigol yn archwilio’r cysyniad o bŵer, dan arweiniad yr artist Bethan Marlow ac wedi eu creu a’u perfformio gan bobl ifanc a gweithwyr ieuenctid o gymoedd de Cymru.
Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: "Mae’n deimlad gwych i allu dod â Gŵyl y Llais yn ei hôl wedi cyfnod mor heriol yn ein bywydau. Mae gennym ugain act anhygoel yn perfformio dros y pedwar diwrnod, ac mae’r ffaith y bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal ar lwyfan Theatr Donald Gordon, gyda’r gynulleidfa ar y llwyfan hefyd, yn eu gwneud yn wirioneddol arbennig ac agos-atoch.
Rydym yn edrych mlaen at groesawu nifer o berfformwyr i Gaerdydd am y tro cyntaf, ac rwy’n awyddus iawn i gael cyfle i ddathlu a gwrando ar leisiau pwerus o bob rhan o’r byd eleni, a phob blwyddyn o hyn ymlaen.