Mae'r rôl yma yn gyfrifol am ddarparu 3 elfen o'r Strategaeth Ddysgu a Chyfranogi Creadigol, gan sicrhau ymgysylltu â grwpiau targed a'u datblygu, gan gynnwys plant, pobl ifanc a grwpiau cymunedol. Datblygu cydberthnasau â gweithwyr proffesiynol ieuenctid, sefydliadau ieuenctid a phobl ifanc er mwyn datblygu a dyfnhau ymgysylltu â phobl ifanc yn y dyfodol ledled Cymru yn unol â'r Strategaeth Ddysgu a Chyfranogi Creadigol;
Ynghyd â'r tîm creadigol, arwain a chefnogi'r broses ddylunio, comisiynu a chynhyrchu'r cynnig dysgu ar gyfer cynyrchiadau'r Ganolfan, gan gynnwys Gŵyl y Llais.