Cynhyrchydd Cynnwys Creadigol

Cyflog
Hyd at £27k
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
06.08.2021
Profile picture for user jamescuff

Postiwyd gan: jamescuff

Dyddiad: 21 July 2021

Y rôl
Rydym yn ehangu ein tîm creadigol ac yn chwilio am y dalent orau i helpu i gynhyrchu gwaith effeithiol sy’n denu sylw i'r asiantaeth a'n cleientiaid anhygoel.

Fel rhan o hyn, rydym yn chwilio am gynhyrchydd cynnwys creadigol talentog i'n helpu i ddatblygu'r galluoedd creadigol a'r arloesedd mewn adrodd straeon aml-lwyfan sy'n cefnogi cynlluniau uchelgeisiol yr asiantaeth.

Pwy ydych chi
Cynhyrchydd cynnwys creadigol profiadol, ymarferol sy'n gallu deall brîff, arwain y broses o wyntyllu syniadau a helpu i droi syniadau’n ymgyrchoedd beiddgar, creadigol.

Cyfathrebwr gweledol sy'n gallu cynhyrchu byrddau stori a byrddau syniadau sy'n helpu i ddod â syniadau a chysyniadau’n fyw.

Rhywun sy'n gallu creu a goruchwylio'r gwaith o gynhyrchu cynnwys digidol beiddgar a diddorol ar draws pob llwyfan a sianel.

Bydd Reddit a TikTok yn arfer dyddiol. Byddwch yn cyfathrebu drwy memes ac emojis ac yn deffro'n gyffrous wrth feddwl am y posibilrwydd o greu cynnwys arloesol i'r asiantaeth a'n cleientiaid. Mae’n fwy na dim ond swydd.

Dylech wneud cais os ydych chi’n:
• Unigolyn eithriadol o chwilfrydig
• Poeni am y materion go iawn yn y byd sy'n effeithio ar bobl bob dydd
• Yn hyderus o ran eich gallu creadigol
• Yn frwd ac yn angerddol am ein diwydiant a'ch swydd
• Yn credu ym mhŵer creadigrwydd ac adrodd straeon i newid y byd
• Wrth eich bodd â'r cyfryngau cymdeithasol a’r holl gynnwys
• Yn awyddus i weithio gydag asiantaeth sy'n gwneud camau breision
• Gallwch weithio'n annibynnol a gyda chefnogaeth tîm
• Yn hyderus wrth gyflwyno syniadau i'r tîm mewnol, ein cleientiaid a’n darpar gleientiaid

Trosolwg o'r cyfrifoldebau:
• Datblygu cysyniadau a syniadau creadigol i'w cyflwyno i'r cleient
• Dylunio graffeg a chynhyrchu GIFs, dyluniadau graffig wedi’u hanimeiddio a chynnwys fideo
• Cynhyrchu cynnwys cymdeithasol gan ddefnyddio adnoddau llwyfan penodol (native)
• Cadw llygad barcud ar ein diwydiant, ein cystadleuwyr a'ch maes. Yn ymwybodol o bob tuedd newydd ac yn sylwi ar gyfleoedd
• Creu cynnwys ac asedau ymgyrchu a rheoli trydydd partïon allanol
• Cael gafael ar ddelweddau, a’u golygu, gyda gwybodaeth am gyfreithiau hawlfraint
• Gwneud argymhellion creadigol ar draws sawl disgyblaeth

Profiad a sgiliau:
O leiaf 2 flynedd o brofiad yn gweithio mewn rôl greadigol, yn ddelfrydol mewn asiantaeth neu'n fewnol ond peidiwch â gadael i hynny eich atal rhag gwneud cais
Dealltwriaeth o ffurfiau cyfryngau cymdeithasol ac ymddygiad cynulleidfaoedd a'r hyn sy'n gweithio, ble a pham
Profiad o gynhyrchu cynnwys cymdeithasol
Llygad da am ffilm, ffotograffiaeth ac adrodd straeon
Profiad o Adobe CC (Photoshop, illustrator, After Effects a Premiere Pro)

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:


● 25 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc (cyfanswm o 33 diwrnod)
● Gweithio hyblyg gyda'r opsiwn o weithio mewn swyddfa  a gweithio gartref
● Cyllideb hyfforddi hael
● Datblygu talent a chynllun datblygu wedi'i deilwra
● Cynllun pensiwn cystadleuol
● Telir am geisiadau am wobrau personol
● Aelodaeth i gymdeithasau diwydiant
● Cyfle i weithio ar rai o frandiau mwyaf y DU
● Cynllun gofal iechyd preifat
● Cynllun manteision ychwanegol
● Diwrnodau teithio â thâl i'ch galluogi i gymryd gwyliau carbon isel
● Diwrnod i ffwrdd i ddathlu eich diwrnod cyntaf yn eich swydd
● Digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd
● Gliniadur newydd modern
● Lwfans ffôn misol

Sut i wneud cais:

E-bostiwch hello@brandcontent.co.uk gyda'ch CV a'ch portffolio

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.