Pennaeth Gwisgo Achlysurol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau : Iau 26 Awst 2021 12:00pm
Cyfweliadau wythnos yn dechrau : Mer 28 Gorff 2021
Interviews : Iau 29 Gorff 2021
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn chwilio am nifer o Staff Gwisgo Achlysurol i gynorthwyo ein adran Wardrob Teithiol yn ystod Tymhorau Caerdydd. Bydd ein Tymor Hydref 2021 yn rhedeg am 5 wythnos o 31 Awst. Bydd Gwisgwyr Achlysurol yn cyfrannu at ddatblygiad creadigol a llwyddiant y Cwmni ac yn chwarae rhan ymarferol bwysig wrth droi ein huchelgeisiau yn realiti.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig. Rydym yn annog pobl o unrhyw gefndir i wneud cais am swyddi gwag. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas ac sy’n dwyn ynghyd pobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i helpu i siapio’r hyn a wnawn a sut y gweithiwn. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), a phobl anabl sy’n dymuno ymgeisio.