Defnyddio technoleg i wella ac ehangu hygyrchedd i bobl greadigol a chynulleidfaoedd
Ymunwch â rheolwr prosiect Caerdydd Creadigol, Vicki Sutton, i drafod sut mae technoleg yn gwella ac yn ehangu hygyrchedd celf a diwylliant i bobl greadigol a'u cynulleidfaoedd. Bydd pump o bobl greadigol Cymru'n ymuno â Vicki i rannu enghreifftiau o'u hymagweddau arloesol. Byddwn yn trafod y dechnoleg sydd wedi datblygu a sut y gall gyfoethogi profiadau creadigol.
Bydd capsiynau a dehongli BSL ar gael yn y sesiwn hon.
Cofrestrwch yma.
Mwy am y bobl greadigol
Hannah McPake ac Alison John
Darllediad sain byw yw RISE a gynhelir gyda'r wawr, ar adeg sy'n nodi dechrau'r gwyll cyn codiad yr haul. Taith freuddwydiol sy'n ysgogi'r gwrandäwr i ailgysylltu â'i hun ac â'r byd o'i gwmpas. Cynlluniwyd y darllediad byw i gael ei glywed yn eich cartref ac mae'n trafod themâu defod, myth a chysylltedd. Hannah McPake, Alison John a Julian Sykes gafodd y syniad am Rise a'i ddatblygu. Crëwyd RISE gyda chefnogaeth CCC drwy grant sefydlogi unigol.
Gwneuthurwr theatr yw Hannah, cyd-sylfaenydd y cwmni theatr arobryn Gagglebabble ac Artist Cyswllt gyda Theatr Iolo. Mae wedi cydweithio â yello brick ar sawl profiad digidol; gan leisio EXTINCT a COLD CASE, yn ogystal â chyd-ddyfeisio a chyfarwyddo FINAL CUT i yello Brick/WMC a NOW/HERE, prosiect cydweithredol yello brick/Mess up the Mess.
Mae Alison yn gyd-sylfaenydd a chynhyrchydd gyda Yellobrick a sefydlwyd yn 2012. Mae ei chefndir yn y theatr ac ar ôl hyfforddi fel actor yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yn 2002, bu’n gweithio yn y diwydiant theatr am wyth mlynedd. Ar ôl hynny dechreuodd yrfa'n rheoli, marchnata a chynhyrchu digwyddiadau. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys cynhyrchu gêm aml-blatfform a Gymeradwywyd gan BAFTA Games REVERIE ac everwake a gyrhaeddodd rhestr fer Dylunio Gorau yng Ngŵyl Dylunio Caerdydd. Mae Alison hefyd yn gyd-gynhyrchydd Gŵyl playARK. Digwyddiad blynyddol yng Nghaerdydd yw hwn sy’n archwilio straeon, gemau a phrofiadau chwareus mewn theori ac ymarfer. Roedd hefyd yn Gyfarwyddwr ARK LAB, cwmni creu prosiectau er lles cymdeithasol.
Jorge Lizalde
Mae Jorge yn ffotograffydd / fideograffydd / dylunydd mapio taflunio yng Nghaerdydd.
Mae wedi dylunio a helpu ar set i greu tafluniadau byw, a hefyd wedi cynorthwyo cwmnïau theatr i ffrydio eu hymchwil a datblygu a chynyrchiadau'n fyw. Helpodd Unlimited i integreiddio isdeitlau a dehonglwyr Bsl byw yn ystod eu galwadau Zoom ond hefyd gyda ffrydio byw ar draws gwahanol lwyfannau - Youtube, Facebook, ac ati.
Derbyniodd Ymchwil a Datblygu Gwydnwch gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ymchwilio ac edrych ar wahanol dechnolegau (capsiynau, sain dirgrynol ac LEDs) a'u defnydd posibl i wneud mewnosodiadau celf a pherfformiadau'n fwy hygyrch.
Leigh Davies
Mae Leigh Davies yn Berson Systemau Creadigol gwobrwyedig yn y DU - cynhyrchydd cerddoriaeth, darlunydd, dylunydd, technolegydd, animeiddiwr; crëwr pob math o gynhyrchion creadigol, sy'n cyflwyno straeon ac yn cynllunio profiadau. Cyd-sylfaenydd pyka. Darlithydd Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw. Bydd Leigh yn rhannu gwybodaeth ar ei brosiectau Playces (cyfres arobryn o gerfluniau-offer clywedol rhyngweithiol sy'n hyrwyddo chwilfrydedd, archwilio a chwarae) a cherddorfa The Expression (casgliad o offerynnau digidol aml-blatfform wedi'u cynllunio i ehangu mynediad at berfformiad cerddoriaeth sy'n grymuso).
Rachel Stelmach
Swyddog Cenedlaethol Technoleg Greadigol a Chelfyddydau Cymysg Celfyddydau Anabledd Cymru. Mae Rachel yn cynnig help a chefnogaeth i artistiaid anabl ledled Cymru ym meysydd technoleg greadigol a ffurfiau celf cymysg.
Mae hi hefyd yn cynnig cyngor i sefydliadau ledled Cymru sy'n dymuno gweithio gydag artistiaid anabl neu wella mynediad at eu gwasanaethau a'u lleoliadau.