Swyddog Cyfathrebu Digidol a Marchnata Dwyieithog Llawn-amser

Cyflog
£21-£23 mil y flwyddyn
Location
Casnewydd NP10 9FQ
Oriau
Full time
Closing date
31.05.2021
Profile picture for user Ballet Cymru

Postiwyd gan: Ballet Cymru

Dyddiad: 12 May 2021

Yn chwilio am rôl gyffrous, greadigol yn y celfyddydau? Rydym yn cyflogi Full-time Bilingual Marketing & Digital Communications Officer

Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm dynamig sy'n tyfu yn sefydliad Portffolio Celfyddydau Cymru, Ballet Cymru

Gyda chynyrchiadau teithiol arobryn a dewis cynyddol boblogaidd ac amrywiol o raglenni hyfforddi ac addysgu, mae Ballet Cymru yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu Digidol a Marchnata Dwyieithog Llawn-amser i ganolbwyntio ar ddatblygu ei weithgareddau marchnata, a hynny yn ystod cyfnod newydd cyffrous yn siwrnai’r cwmni.

Mae hon yn rôl newydd sbon i helpu i ddatblygu cenhadaeth y Cwmni i fod yn gwmni ballet cynhwysol, arloesol.

Rôl

Yn rôl y Swyddog Cyfathrebu Digidol a Marchnata Dwyieithog ar gyfer Ballet Cymru, byddwch yn gyfrifol am amrywiaeth eang o ddyletswyddau, gan gyflawni rhaglenni cyfathrebu Marchnata targededig yn gywir ac mewn modd creadigol. Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu'r Gymraeg yn hanfodol wrth ymgeisio am y rôl hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos â Thîm Rheoli a Thîm Creadigol Ballet Cymru i ddatblygu'r strategaethau marchnata a digidol presennol, ac yn helpu i chwilio am gynulleidfaoedd newydd, amrywiol ar-lein a ledled y DU, a hynny er mwyn hyrwyddo gweithgarwch teithiol y Cwmni. Mae'r rôl hon yn allweddol i amcanion craidd y cwmni o ran codi arian a datblygu'r gynulleidfa.

Rydym yn mynd ati i annog ceisiadau gan gymunedau anabl, B/byddar, niwroamrywiol, LGBTQ+, Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

I gael gwybodaeth am sut i wneud cais, lawrlwythwch Becyn Swydd a Ffurflen Gofrestru Ddwyieithog y Swyddog Cyfathrebu Digidol a Marchnata, neu anfonwch neges e-bost at ein gweinyddwr, Jenny, yn: jennyisaacs@welshballet.co.uk

Dyddiad cau: 12 hanner dydd, ddydd Llun 31 Mai 2021

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event