Os ydych chi’n cael eich hysbrydoli gan y posibilrwydd o weithio gyda phobl ac mewn ardal wledig, ac yn gwerthfawrogi man canolog celf a diwylliant ym mywydau unigolion a chymunedau rydym eisiau clywed gennych. Rydym yn chwilio am ymarferwyr sydd â chywreinrwydd, cynhesrwydd, unplygrwydd ac yn agored wrth rannu ein penderfyniad i osod lleisiau’r artist, pobl ifanc a chymunedau gwledig yn ganolog yn ein rhaglen a’n sefydliad celfyddydol.
Bydd y Cydymaith Cyfathrebu yn arwain ar ddatblygu gwaith cyfathrebu cynhwysol, dilys a dychmygus ar gyfer Peak – gan roi llwyfan i safbwyntiau artistiaid, pobl ifanc, a chymunedau gwledig Cymru ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn awyddus i weithio gydag ymarferydd sydd â gweledigaeth unigryw a chreadigol ar gyfer y rôl hon ac â dealltwriaeth ynghylch sut y bydd hyn yn gweithio o ran cyfeirio dyfodol Peak.
Gan weithio fel aelod o dîm bychan, bydd y Cydymaith Cyfathrebu yn gyfrifol am arwain a gwireddu gwaith cyfathrebu Peak yn ei grynswth ar lawr gwlad yn ein lleoliadau corfforol ac ar draws ein sianeli digidol.
Ein gwerthoedd
Mae Peak yn gwerthfawrogi creadigrwydd fel offeryn hanfodol ym mywydau pawb. Rydym yn gweithio er mwyn sicrhau bod cymunedau gwledig ac ôl ddiwydiannol yn cael eu clywed a’u gweld, yn enwedig y rheini sydd bellaf o ganolfannau grym. Rydym yn canolbwyntio ar bobl ifanc, yn enwedig rheini rhwng 16 a 25 mlwydd oed, a fydd yn cyflawni gwaith allweddol o ran ail-ddychmygu ein dyfodol ac yn mynd I’r afael â materion o bwysigrwydd byd-eang yn eu cymunedau.
Ein lleoliad
Ysbrydolir gwaith ac ymateba Peak i’w gyd-destun daearyddol yn y Mynyddoedd Duon. Mae ein rhaglen yn gwasanaethu cymunedau gwledig Powys a Sir Fynwy yn ogystal â chymunedau ôl-ddiwydiannol ym Mlaenau-Gwent, Torfaen, Rhondda Cynon Tâf, Merthyr Tudful a Chasnewydd. Mae herio syniadau ynghylch ardaloedd gwledig Cymru yn rhan o’n gwaith.
Ein rhaglen artistig
Mae ein gwaith yn ymateb i egwyddorion cynaladwyedd a llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws sectorau diwylliant, yr amgylchedd, treftadaeth, iechyd ac addysg er mwyn cyflawni ein hamcanion. Ymhlith ein partneriaid cyfredol a diweddar mae Glandwr Cymru, prosiect Skyline ac Y Gaer. Ein ffocws yw’r celfyddydau gweledol a chymwysedig, gweithredu cyfranogol ac ysgrifennu creadigol.
Ein canlyniadau
Nod rhaglen artistig Peak yw meithrin rhagoriaeth gelfyddydol, mentro a wynebu risgiau, galluogi cyfranogi yn niwylliant a chelfyddyd gyfoes, meithrin doniau creadigol a medrau a chefnogi lles, hyder a dycnwch unigolion a chymunedau. Rydym eisiau i leisiau pobl Cymru wledig gael eu gweld a’u clywed.
Rydym yn annog yn arbennig geisiadau oddi wrth bobl sy’n dod o gefndiroedd sydd wedi eu tan-gynrycholi yn y sector gelf a threftadaeth, a / neu sydd heb ddilyn trywydd confensiynol neu ffurfiol i gyflogaeth. Nid oes angen i chi fod yn bodloni’r holl feini prawf y cyfeirir atynt ym manyleb y person er mwyn cyflwyno cais.
Rydym yn dymuno gwneud ein proses recriwtio mor ddynol a chynnes â phosib. Pe hoffech drafod y rôl, a’ch cais, yna anfonwch e-bost at info@peak.cymru, neu anfonwch neges uniongyrchol at ein cyfrif trydar (@peakcymru) er mwyn trefnu amser i sgwrsio gydag un o’n dwy gyfarwyddwr, Justine Wheatley (Gweithredol) neu Melissa Appleton (Creadigol).