Dros y cyfnod clo rwyf i wedi cael fy ysbrydoli gan yr enfysau sydd wedi ymddangos yn fy stryd a rhan o oriel gymunedol Art Clwb fel symbol o obaith. Caredigrwydd ac ysbryd cymunedol y dref sy'n gartref i fi, Casnewydd, yw'r hyn sydd wedi fy ysbrydoli i greu cwtsh gynnes, i ddod â llawenydd ac egni i bobl eraill.
Dros y cyfnod hwn, mae llawer o bobl, a fi yn eu plith, wedi dychwelyd at grefftau am gysur a chynhesrwydd i ddianc rhag pryderon y byd. Rwyf i wedi cael fy ngalw yn 'Bohemian Mary Poppins' gyda fy nghesys o greadigrwydd, ymweliadau celf stepen drws ac Art Clwb. Mae fy nghartref wedi dod yn borth ar gyfer creadigrwydd a breuddwydion. Rwyf i wedi creu byd a gofod y tu mewn, wedi'u hysbrydoli gan y tu allan. Mae creadigrwydd yn ymwneud â greddf, angerdd, breuddwydion a hapusrwydd. Drwy gasglu straeon ar gyfer Cysylltiadau Coll rhannwyd llawer o weithredoedd bach o garedigrwydd a chynhesrwydd yn fy nhref enedigol. Mae hyn wedi fy ysbrydoli'n fawr ac wedi fy nghadw i fynd. Nawr yn fwy nag erioed rwy'n teimlo bod caredigrwydd yn bwysig.
Byddaf yn gadael Pompoms caredigrwydd mewn rhannau o Gasnewydd. Os dewch chi o hyd i un rhannwch ffotograff a thagiwch @ZibaCreativeUK ac #EinLleCreadigol
Cot Caredigrwydd Radical – Naz Syed
Ffilm – Creative Fez
Cyfweliadau stepen drws – Naz Syed, Donna Underwood, Onizmo Mullanga a James Mitchell.
Lleisiau'r gymuned – Rahila Hamid, Ayesha Khan, Danielle Rowlands, Awen Rowlands, Tabassum Ali. Francesca Battersby.
Cwilt - creodd Naz gwilt 'Rydym ni'n disgleirio'n fwy llachar gyda'n gilydd' i’r elusen leol Bundles a Glan yr Afon, ar gyfer Gorymdeithiau i goffau 100 mlynedd ers rhoi'r bleidlais i fenywod - 100 o ddwylo a grëwyd gan y gymuned yng Nghasnewydd.