Fel archwiliad i'r ailgysylltiad â'n hamgylcheddau lleol, sydd wedi dod yn amlwg i gynifer trwy'r pandemig, mae Gwenllian yn defnyddio archif o'i delweddau a'i recordiadau sain a gesglir ei hun wrth gerdded yn ddyddiol yn ystod y cyfnod clo ym Merthyr Tydfil.
Mae seiniau'n cael eu huno a'u gorgyffwrdd, yn yr un modd ag y mae delweddau'n cael eu torri a'u pastio. Mae bryniau yn cael eu toddi fel clai, mae llethrau yn cael eu mowldio'n feddal a daw’r tir yn arw ac yn galed. Mae’r cydrannau wedi’u rhwymo ynghyd â llais clywedol yr arlunydd, sy’n adrodd ei thaith i’r ‘Chwarel’.
Wrth lithro rhwng Saesneg a Chymraeg, mae Gwenllian yn defnyddio llafar i amlygu rhinweddau deunyddol ei thirwedd leol ac i ehangu delweddau disgrifiadol o'r amgylchedd gweadol.
Creuwyd map lliw rhwd i gyd-fynd gyda’r gwaith fideo, lle mae Gwenllian yn annog y gynulleidfa i gymhwyso archwiliad tebyg i'w hamgylchedd lleol, “i gasglu delweddau a synau sy'n dynodi'ch amgylchedd yn benodol, a'u rhoi yn ôl at ei gilydd i ailfeddwl y dirwedd newydd hon”.