Eleni, mae Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd yn dathlu pen-blwydd arbennig.
Ar Ddydd Llun, 5 Ebrill 2021, mae pen-blwydd swyddogol Canolfan Gelfyddydau Chapter yn hanner cant. Y safle celfyddydau aml-gyfrwng hwn oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Meddai Andy Eagle, Prif Weithredwr Chapter: “Sefydlwyd Chapter yn wreiddiol gan gymuned o artistiaid, a dyna yw ei sylfaen a’i phrif ddiben yn dal i fod. Mae’n lle diddorol ac eclectig sydd wedi, dros yr hanner can mlynedd diwethaf, datblygu i groesawu a chynnwys llawer o wahanol fathau o bobl.”
Sefydlwyd Canolfan Gelfyddydau Chapter diolch i egni cychwynnol yr awdur Mik Flood a’r artistiaid Christine Kinsey a Bryan Jones.
Dechreuodd trafodaethau am agor canolfan gelfyddydau yng Nghaerdydd yn 1968, ac roedden nhw’n rhan o weledigaeth am ofod lle gallai artistiaid gynhyrchu a chyflwyno gwaith heb bwysau masnachol. Ystyriwyd bod gwaith arbrofol yn allweddol i hunaniaeth y ganolfan, ac roedd anghenion artistiaid wrth ei chalon.
Ysgol Uwchradd Treganna oedd yr adeilad cyn hynny, ac roedd y cyfnod cychwynnol o sefydlu’r ganolfan yn un beichus. Aeth y sylfaenwyr, a chriw o wirfoddolwyr brwdfrydig ac ymroddedig, ati i glirio, adfer, ac addasu’r adeilad er mwyn ei wneud yn addas fel canolfan gelfyddydau gyntaf Cymru. Cynhaliwyd cyfarfod swyddogol cyntaf y Bwrdd ar 5 Ebrill 1971, ac ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, agorodd Chapter ei drysau gydag oriel, bar a sinema dros dro, gan ddefnyddio hen ystafelloedd dosbarth fel stiwdios, gweithdai a swyddfeydd.
Er mwyn darllen mwy am hanes Chapter a’i blynyddoedd cynnar rhwng 1968 ac 1980, ewch i: https://www.chapter.org/media/6040/chapter-the-early-years-welsh.pdf
Bum degawd yn ddiweddarach, mae Chapter wedi tyfu i fod yn un o’r cyfadeiladau celfyddydau mwyaf yn Ewrop, gyda dwy sinema, dwy theatr, oriel, sawl stiwdio i artistiaid a swyddfeydd diwydiannau creadigol, mannau cyfarfod ar gyfer y gymuned, a chaffi bar. Mae’n cynhyrchu ac yn cyflwyno’r gwaith cenedlaethol a rhyngwladol gorau o fyd celf weledol gyfoes, perfformiadau arbrofol sy’n ysgogi’r meddwl, a ffilmiau heriol annibynnol, prif ffrwd a rhyngwladol, a hynny ochr yn ochr â rhaglen ddysgu ac ymgysylltu gynhwysol.
Bob blwyddyn, mae’r lleoliad yn croesawu 800,000 o ymwelwyr i fwy na 2500 o ddangosiadau ffilm, 200 o berfformiadau byw, 10 arddangosfa celf weledol, a 2000 o ddosbarthiadau cymunedol, ffeiriau crefft, a digwyddiadau.
Meddai Andy Eagle: “Mae Chapter yn llawer o bethau gwahanol i lawer o bobl wahanol. I rai, yr arddangosfeydd rhyngwladol yn yr oriel fyddai hyn, a’r rhaglen o ffilmiau annibynnol. I eraill, y caffi bar a’r bwyty lle byddan nhw’n cwrdd â ffrindiau cyn gêm gartref Dinas Caerdydd yw’r ganolfan, neu’r dosbarthiadau dawns a theatr, neu baned cyn mynd ati i weithio yn yr ardd gymunedol. Ond wrth ei chalon, canolfan ar gyfer celf gyfoes yw hi, sy’n cefnogi artistiaid a phobl greadigol o Gymru a’r tu hwnt i gynhyrchu ac i gyflwyno gwaith.”
Mae Chapter yn gweithio gydag ymarferwyr ar bob cam o'u gyrfa, yn cefnogi ac yn ysgogi cyfleoedd ar gyfer artistiaid newydd cyffrous, ynghyd â hyrwyddo gwaith y rhai sefydledig. Mae’n sbardun ar gyfer cymuned greadigol Cymru, gan ganolbwyntio ar gyflwyno’r byd i Gymru a Chymru i’r byd.
Mae Chapter yn gartref i dros 40 o gwmnïau ac artistiaid creadigol mwyaf dynamig Cymru, gan gynnwys BAFTA Cymru, Printhaus, Cynyrchiadau ie ie, Theatr Everyman, Cynyrchiadau Beryl, Ysgol Gerdd Caerdydd a Theatr Taking Flight. Mae Chapter wedi aros ar agor i’r gymuned greadigol yma yn ystod y pandemig. Maen nhw hefyd yn cynnig ystod o ofodau i gefnogi artistiaid a chwmnïau lleol ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu prosiectau artistig, gan gynnwys Theatr Hijinx.
Fel y rhan fwyaf o leoliadau celf ac adloniant, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn i’r sefydliad, wrth iddyn nhw gael eu gorfodi i gau eu drysau. Meddai Andy Eagle: “Mae cau wedi cael effaith enfawr arnon ni. Rydyn ni’n sefydliad celfyddydol sy’n cynhyrchu’n hincwm cyfan fwy neu lai drwy werthiannau tocynnau, dosbarthiadau, llogi, y caffi bar a gweithgarwch arall. Mae’r swm bach arall yn dod gan Gyngor y Celfyddydau, ac mae’n cael ei ddefnyddio i gefnogi ein rhaglen gelfyddydau ac addysg. Daeth ein gallu i greu incwm i ben dros nos, yn llythrennol, ac roedd hynny’n arbennig o frawychus.”
Rydyn ni wedi cael cefnogaeth drwy roddion arbennig o hael gan y cyhoedd a gan ystod o arianwyr, gan gynnwys Cyngor y Celfyddydau, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Ffilm Prydain, Art Fund, Ffilm Cymru ac Admiral.
Ers iddi gau, mae Chapter wedi bod yn cynnig rhaglen gyffrous Chapter o Gartref, sydd wedi cynnwys dros hanner cant o ddangosiadau ffilm rhithiol, cynyrchiadau theatr ac arddangosiadau celf ar-lein, nosweithiau comedi misol ar-lein gyda’r digrifwr o Gymru Robin Morgan, darlithoedd rhithiol gyda Chymdeithas Celfyddydau Caerdydd, ynghyd â pherfformiadau theatr awyr agored gyda chwmnïau o Gaerdydd fel Theatr Iolo a Kitsch & Sync.
I’w gweld gan Chapter ar hyn o bryd (ac yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a g39) mae’r arddangosfa gelf ryngwladol Artes Mundi. Mae’r arddangosfa ar gael ar-lein – a bydd hi ar y safle hefyd cyn gynted ag y bydd hawl gwneud hynny. Yn y Lightbox a'r Caffi Bar mae darnau bwrdd poster graddfa fawr o ymgyrch gelf gyhoeddus ddiweddar a pharhaus yr artist o America, Carrie Mae Weems, sef RESIST COVID TAKE 6! Mae'r gwaith yma'n canolbwyntio ar y pandemig byd-eang sy'n dal i effeithio arnon ni i gyd, a'i effaith ar bobl groenliw yn benodol. Yn yr Oriel mae gwaith trochol gan yr artist o Dde Affrica, Dineo Seshee Bridd – caiff gwrthrychau, dyluniadau a sain eu cyflwyno mewn gofodau â waliau wedi’u gorchuddio â golch o bridd o safleoedd cysegredig yng Nghymru.
Wrth siarad am y rhaglen ers i Chapter gau, meddai Hannah Firth, y Cyfarwyddwr Rhaglen: “Pan gaewyd ein drysau ym mis Mawrth y llynedd, roedden ni am sicrhau y gallen ni barhau i siarad gyda’n cynulleidfaoedd a’r gymuned greadigol, sef yr hyn sy’n ein cynnal ni. Er gwaetha’r ansicrwydd roedd llawer o artistiaid yn ei wynebu, dangoson nhw wydnwch syfrdanol a pharodrwydd i addasu’n gyflym i ffyrdd eraill o weithio ac o ymgysylltu. Rydyn ni wedi bod yn ddigon lwcus i gael gweithio gyda rhai ohonyn nhw i greu rhaglen ddynamig o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar-lein ac yn yr awyr agored, ac rydyn ni wedi datblygu nifer o gomisiynau allweddol i gefnogi artistiaid, gan gynnwys yn ein Blwch Golau, yn ein caffi bar, yn ein horiel, o gwmpas cymuned Treganna, ac ar-lein.”
Ar hyn o bryd, mae Chapter yn paratoi i ailagor. Yn ddibynnol ar ganllawiau Covid, maen nhw’n gobeithio croesawu cwsmeriaid yn ôl i’r ardal awyr agored rhywbryd ar ôl y Pasg, ac maen nhw wedi bod yn gweithio’n galed i wella’r ardal honno i gadw ymwelwyr yn gynnes ac yn gyfforddus ddydd a nos.
Er nad yw Chapter yn gallu dod â phawb at ei gilydd i gael parti pen-blwydd mawr fel y bwriadwyd, byddan nhw’n dathlu eu hanner can mlwyddiant tan fis Ebrill nesaf, gyda chyfres o ddigwyddiadau arbennig, gweithgareddau, a chynnwys ar-lein – mae ganddyn nhw gynlluniau arbennig o gyffrous ar gyfer digwyddiadau awyr agored yr haf yma.
Meddai Andy Eagle: “Yn amlwg, nid 2021 oedd y flwyddyn roedden ni’n ei disgwyl i ddathlu ein hanner can mlwyddiant!”
“Er bod symud at fyd digidol yn wych mewn llawer o ffyrdd, yn y pen draw mae pobl eisiau gallu mwynhau eu hunain a chwrdd, a gwneud pethau wyneb yn wyneb. Felly rydyn ni’n edrych ymlaen at ailagor a gwneud yr hyn rydyn ni’n dda am ei wneud!”
Er mwyn dilyn dathliadau, digwyddiadau a gweithgareddau pen-blwydd Chapter yn hanner cant, cadwch lygad ar eu gwefan www.chapter.org (lle gallwch gofrestru i fod ar gyfer eu rhestr e-bost), neu dilynwch eu sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol (@chaptertweets ar Twitter ac Instagram, @chapterarts ar Facebook).
Oes ganddoch chi atgofion arbennig o Chapter? Rhannwch eich hoff adegau ar Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #ChapterArts50.