Cysylltu a chydweithio ar draws y gymuned greadigol
Cyfle misol ar-lein i drafod yr hyn mae’i angen arnoch chi boed unigolyn neu sefydliad creadigol a'r hyn y gallech chi ei gynnig ar gyfer prosiectau cydweithio creadigol newydd.
Dyma gyfres newydd o ddigwyddiadau gan Gaerdydd Greadigol i annog pobl i gydweithio. Byddwn ni’n tynnu sylw at gyfleoedd, cronfeydd, grantiau a phrosiectau yng Nghaerdydd, Cymru a’r tu hwnt gan ganolbwyntio ar gael effaith trwy gydweithio. Dyma'ch cyfle i gwrdd â phobl o'r diwydiannau creadigol a diwylliannol i hel syniadau, cynnig cymorth a meithrin eich rhwydwaith.
- Ydych chi wedi gweld cyfle i gydweithio heb fod yn siŵr sut i fynd ati? Dyma ffordd reolaidd o ddysgu am gyfleoedd newydd a chwrdd â'r rhai sy'n ymwneud â nhw.
- Ydych chi wedi meithrin medr neu brofiad mewn maes newydd yn ddiweddar? Dyma’r lle i drafod faint rydych chi wedi'i ddysgu.
- Oes angen cyngor ar elfen o'ch gwaith, heb wybod ble mae’r cyngor hwnnw ar gael? Gallai rhywun yn y gymuned hon fod o gymorth.
- Ydych chi'n sefydliad sy’n chwilio am bobl i’ch helpu i gyflawni rhyw brosiect? Mae modd ehangu’ch rhwydwaith gyda ni.
- Ar y llaw arall, hoffech chi gwrdd â phobl sy'n ymwneud â sectorau neu feysydd creadigol gwahanol? Mae croeso i bawb, a does dim gofyn ichi siarad na chyfrannu os nad ydych chi am wneud hynny.
Damon Bonser - Cronfa Ddylunio Prydain
Mae Cronfa Ddylunio Prydain yn cynnig buddsoddiad a mentora i fusnesau dylunio a gweithgynhyrchu cynhyrchion ar gam cynnar yn y DU. Mae gan y DU yr ail sector dylunio mwyaf yn y byd, a'r un mwyaf yn Ewrop. Mae'n cynhyrchu rhai o ddyfeiswyr ac arloeswyr cynhyrchion mwyaf blaenllaw'r byd. Fodd bynnag, er gwaethaf y dreftadaeth hon, mae bwlch cyllido sylweddol ar gyfer busnesau cam cynnar yn y sector hwn. Mae Cronfa Ddylunio Prydain yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn.
Os ydych chi’n fenter dylunio cynhyrchion neu galedwedd, gyda dealltwriaeth glir o’ch marchnad a’r angen yr ydych yn ei ddiwallu, yna byddem wrth ein boddau’n siarad â chi. Mae BDF yn buddsoddi £150k o arian parod ac yn darparu rhaglen helaeth o fentora a chefnogaeth.
Victoria Harris - Rhaglen Scale UP SETsquared
Mae gan y rhaglen Scale Up (cydweithrediad rhwng Prifysgolion Caerdydd, Caerfaddon, Bryste, Caerwysg, Southampton a Surrey) gefnogaeth y gellir ei chyrchu i ddatblygu cynigion, h.y. dyfarniadau cyllido a gellir eu defnyddio ar gyfer ysgrifennu ceisiadau, datblygu partneriaeth consortia a gweithdai a rheoli prosiectau.
Pan ymunwch chi, nodwch unrhyw anghenion megis Iaith Arwyddion Prydain neu adroddiadau lleferydd i destun fel y gallwn ni eu diwallu. Rhowch wybod inni am ffyrdd eraill o hwyluso hygyrchedd ichi trwy anfon neges at: creativecardiff@caerdydd.ac.uk.
Cadwch eich lle yma