Cefnogaeth Weinyddol ar gyfer Gŵyl Farddoniaeth Seren Caerdydd
Bellach yn ei phumed flwyddyn, nod Gŵyl Farddoniaeth Seren Caerdydd yw gosod barddoniaeth o Gymru a gweddill y byd o flaen cynulleidfa eang. Ar ôl cael ei chynnal yn y gorffennol mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl ar-lein yn 2021, yn bennaf dros benwythnos 16 i 18 Ebrill. Bydd ei fformat o berfformiadau, gweithdai ac addysg yn parhau, ond bydd ei chyrhaeddiad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ddinas trwy ddigwyddiadau byw a fideos wedi'u recordio ymlaen llaw. Cefnogir yr Ŵyl gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies.
Mae'r ŵyl yn ceisio recriwtio person i ddarparu cefnogaeth weinyddol i gynorthwyo gweithwyr presennol yr ŵyl ym meysydd cyswllt â pherfformwyr, tocynnau, marchnata a hyrwyddo, darpariaeth ar-lein, a gohebu ar ôl yr ŵyl - cyfnod cyflogaeth: Chwefror i Ebrill 2021, yn gynhwysol.
Bydd y gweinyddwr yn gyfrifol am:
- sicrhau cynnwys amserol a chywir ar wefan yr ŵyl;
- cysylltu â'r cyfryngau yng Nghymru;
- paratoi a gweithredu elfen farchnata'r ŵyl a digwyddiadau unigol;
- trefnu digwyddiadau, gan gynnwys cysylltu â chyfranogwyr;
- ymdrin ag ymholiadau’r gynulleidfa, a chofnodi niferoedd y gynulleidfa trwy’r system docynnau ar-lein;
- dadansoddi pob agwedd ar yr ŵyl.
Bydd y gweinyddwr yn gweithio ochr yn ochr â swyddog marchnata Seren a chyfarwyddwr yr ŵyl, ac yn atebol i reolwr Seren. Bydd gan yr unigolyn sgiliau cynnal a rheoli digwyddiadau yn enwedig gan ddefnyddio Zoom, profiad o hyrwyddo trwy'r cyfryngau cymdeithasol, profiad o gynnal a chadw gwefan Wordpress, hyfedredd yn Excel a Word a'r gallu i ymgyfarwyddo â meddalwedd newydd yn gyflym (darperir hyfforddiant lle bo angen).
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol. Oherwydd cyfyngiadau covid, bydd y gweinyddwr yn gweithio gartref, yn ddelfrydol yng Nghaerdydd a'r ardal gyfagos, neu yng Nghymru.
Dylai eich cais gynnwys CV llawn a llythyr yn egluro pam eich bod yn teimlo mai chi yw'r person ar gyfer y swydd hon. Dyma gyfle unigryw i gymryd rhan mewn digwyddiad aml-dasg gyffrous, sy'n tyfu. E-bostiwch: mickfelton@serenbooks.com