Fel un o sefydliadau blaenllaw Prydain ar gyfer ffotograffeg gyfoes a chelfyddydau’r lens, mae comisiynu a chyflwyno gwaith rhagorol ac amrywiol o bob cwr o’r byd yn ganolog i genhadaeth Ffotogallery, ynghyd â chefnogi datblygiad artistiaid ac arddangos gwaith newydd cyffrous a ddatblygwyd yng Nghymru.
Mae hwn yn gyfle i dreulio deuddeg mis yn gweithio i ni mewn cyfnod arbennig o gyffrous; eleni rydym yn lansio tymor o weithgareddau ymgysylltu ac arddangosiadau diwylliannol amrywiol yn ein canolfan newydd yng Nghaerdydd. Byddwn yn cymryd arddangosiadau Ffotogallery ar daith, yn creu cynnwys ar-lein ac yn darparu’r bumed Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, sy’n digwydd bob yn ail flwyddyn, yn hydref 2021.
Fel Cynhyrchydd Creadigol yn nhîm Ffotogallery, cewch eich annog i ddod â’ch syniadau chi i drafodaethau rhaglennu. Cewch eich cefnogi i roi eich prosiect creadigol eich hun ar waith, i ddatblygu eich sgiliau a’ch profiad drwy gydol y flwyddyn, ac i wella eich rhagolygon gyrfaol.
Mae’r cyfle hwn yn un o hanner cant o Fwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood 2020-22, rhaglen sy’n rhoi cyfleoedd datblygu gyrfa i unigolion dawnus o gefndiroedd sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd ar draws y celfyddydau.