Mae S4C yn chwilio am weithiwr proffesiynol deinamig a medrus iawn i arwain a chyflwyno prosiect trawsnewid digidol a marchnata pum mlynedd i ategu cam nesaf taith S4C i fod yn ddarparwr cynnwys llinol a digidol cwbl integredig.
Yr Ymgeisydd Delfrydol
Bydd gennych:-
Sgiliau cyfathrebu eithriadol a phrofiad o arwain rhaglenni newid digidol a chorfforaethol.
Profiad o gyflwyno arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol ar lefel Bwrdd ac Uwch Dîm Rheoli
Profiad sylweddol o gyflwyno rhaglenni trawsnewid digidol ar raddfa fawr wedi'u hategu gan newid sefydliadol
Hanes wedi'i brofi o greu a gweithredu strategaethau proffil uchel, brandio creadigol ac ymgysylltu
Profiad o ddatblygu datrysiadau sy'n seiliedig ar ddata a rhoi'r defnyddiwr wrth wraidd datblygiadau newydd
Manylion Eraill
Lleoliad: S4C, Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 5 mlynedd
Oriau: 35.75 awr yr wythnos
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.Os byddwch yn ymuno â'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 y prynhawn ar ddydd Llun 26 Hydref 2020 at adnoddau.dynol@s4c.co.uk neu'r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.