Dr Jenny Kidd o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant:
Mae tîm Caerdydd Greadigol yn mapio twf rhwydweithiau creadigol yn y deyrnas hon a’r tu hwynt iddi ers rhai blynyddoedd bellach i ddysgu rhagor am eu tarddiad a’u posibiliadau yn rhan o’r ecosustem greadigol. Mae rhwydweithiau o'r fath yn haeddu sylw gan eu bod yn cynnig cyfleoedd pwysig i ymgysylltu, rhyngweithio, meithrin gallu a chyfnewid yn ogystal â chyflawni swyddogaeth lobïo hanfodol ar bob lefel, yn aml.
Yn ystod cyfarfod Joining the Dots ar 30ain Medi, daeth cynrychiolwyr rhwydweithiau ledled y deyrnas ynghyd ar y we i sôn am hwyluso gweithgareddau creadigol yn eu bröydd a rhai meini tramgwydd perthnasol. Diben seminar undydd Caerdydd Greadigol ar y we oedd cyfleu darlun o sefyllfa rhwydweithiau creadigol dinasoedd a threfi ar hyn o bryd, trafod achosion a sbarduno ffyrdd newydd o ymgysylltu â chymunedau a budd-ddalwyr.
Prif nod y seminar oedd lledaenu canfyddiadau ymchwil ddiweddaraf Marlen Komorowski a Sara Pepper am swyddogaethau a chynaliadwyedd rhwydweithiau creadigol. Gan fod bwriad i gyhoeddi’r canfyddiadau cyn bo hir, fydda i ddim yn eu trafod yn fanwl yma ond, yn hytrach, galla i roi cipolwg ar y cyflwyniadau a’r trafodaethau eraill. Soniodd Clive Gillman, Cyfarwyddwr Diwydiannau Creadigol Creative Scotland am y ffordd maen nhw’n ymgysylltu â rhwydweithiau a'r prif egwyddorion sy’n cyfeirio eu gwaith. Gan gynnwys ffordd benodol o drin a thrafod gwerth mewn cyd-destunau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd. Fe roes cynrychiolydd pob rhwydwaith grynodeb o’i ymdrechion a’i fentrau megis rhaglenni mentora, mannau gweithio a grantiau bychain ar gyfer cydweithio.
Daeth i'r amlwg fod gan y rhwydweithiau lawer yn gyffredin er gwaethaf eu gwahaniaethau o ran strwythurau, ardaloedd ac adnoddau. Covid-19 a’r ansicrwydd cysylltiedig yw problem fwyaf y rhwydweithiau i gyd ar hyn o bryd, wrth gwrs. Roedd pawb o’r farn, fodd bynnag, fod galluoedd mwyaf hanfodol y rhwydweithiau (ymaddasu, bod yn effro i anghenion yr aelodau a’r cryfder i eirioli ar eu rhan) wedi’u mireinio wrth ymateb i’r sefyllfa. Y farn oedd bod y pandemig wedi cryfhau'r ddadl o blaid rhwydweithiau o’r fath. Meddai Huw Thomas (Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd) ddechrau'r dydd, “Yn ystod y misoedd diwethaf hyn, rydyn ni wedi gweld bod gwir angen y celfyddydau ar bobl.”
Yn ystod ein trafodaethau, roedd digon o oleuni, creadigrwydd a charedigrwydd. Roedd canu godidog, myfyrio meddylgar a chyfeillgarwch. Dywedodd Cyfarwyddwr Caerdydd Greadigol, Sara Pepper, tua diwedd y dydd fod awyrgylch ein trafodaethau wedi bod bron mor gynnes ac agored â’r hyn y gallen ni fod wedi’i brofi pe bai pawb yn yr un ystafell.
Excited to be representing @Creative_Kernow at #joiningthedots20 a great opportunity to connect with creative networks across the UK #creativenetworks #creativecommunities Meur ras @CreativeCardiff ?
— Fiona Wotton (@fionawotton) September 24, 2020
Very excited to be part of the Joining the Dots: Power of Creative Networks event today.
— Creative Manchester (@UoMCreativeMCR) September 24, 2020
Looking forward to the conversations to come and new connections with other #creativecommunities! #joiningthedots20@CreativeCardiff
Cymerodd cynrychiolwyr y rhwydweithiau creadigol canlynol ran ar y we: Bristol Creatives, Bristol Creative Industries, Sir Gâr Greadigol, Pontypridd Greadigol, Creative Dundee, Creative Edinburgh, Creative Kernow, Creative Lancashire, Creative Leicestershire, Creative Manchester, Culture Central Birmingham, Creative Quarter Nottingham.
At hynny, bu cynrychiolwyr Cyngor Caerdydd, Creative England, Adran Materion Diwylliannol, y Cyfryngau a’r Chwaraeon, Creative Scotland, Cymru Greadigol, Innovate UK, NESTA, Canolfan Polisïau a Thystiolaeth a Rhaglen Clystyrau'r Diwydiannau Creadigol.