Rwy’n Artist a anwyd ac a fagwyd yng Nghaerdydd ac mae gennyf salwch meddwl. Ers yn blentyn roeddwn i’n gwybod fy mod i’n wahanol, ond nid oeddwn i byth yn gwybod pam na sut. Er i bobl ddweud, mewn ffordd ddigon annwyl, fy mod i ‘off fy mhen’ doeddwn i ddim yn sylweddoli nad oedden nhw’n meddwl fel fi nac yn gweld y byd yn yr un ffordd.
Wrth dyfu i fyny yn Sblot fel ffantasïwr llawn egni, dysgais yn gyflym wisgo masg i’m diogelu rhag dangos pwy oeddwn i mewn gwirionedd. Roeddwn i’n ffodus bod fy rhieni wedi fy nghyflwyno i’r byd creadigol lle gallwn i deimlo’n ddiogel a lle roeddwn i fwyaf cyfforddus. Gyda dawns yn arbennig roedd modd imi fynegi fy hun a’m hemosiynau mewn ffordd na allwn i ei wneud ar lafar, oherwydd doeddwn i byth yn deall sut roeddwn i’n teimlo ac felly nid oedd geiriau ar gael i egluro hynny.
Mae fy stori Caerdydd Creadigol yn mapio fy mherthynas â’r Celfyddydau ac Iechyd Meddwl o fod yn blentyn hyd 2020. Mae’n dangos sut y gall y Celfyddydau ein helpu i gyfathrebu a mynegi ein hunain mewn ffordd ddyfnach a mwy ystyrlon, gan greu gwaith sy’n cyfleu pwy ydym ni fel pobl yn gorfforol, yn emosiynol ac yn feddyliol. Mae’r Celfyddydau wedi fy ngalluogi i ddysgu sut i ymdopi â’m hanghenion meddyliol ac emosiynol mewn ffordd llawer iachach nag oeddwn i pan na allwn fod yn greadigol, oherwydd mae’n fy ngalluogi i ddeall y byd ac ymdopi ag ef yn fy ffordd fy hun.
Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Tamsin Griffiths:
I wybod mwy am Tamsin Griffiths a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.