Dewch o hyd i'r disgrifiad clywedol isod a chliciwch CC ar y fideo er mwyn dewis isdeitlau Cymraeg neu Saesneg.
Sgetsh yw fy narn i yn cynnwys y digrifwyr Steffan Alun ac Eleri Morgan. Mae’n edrych ar y sîn gomedi yng Nghaerdydd.
Yn y sgetsh, gwelwn Steffan ac Eleri yn ceisio llenwi ffurflen gais am grant celfyddydol. Nid yw’n beth hawdd. Ni allant ganolbwyntio’n aml ac mae’r ddau fel ci a chath. Fe’u clywn yn siarad am natur agos y sîn gomedi Gymraeg, lleoliadau gigs yng Nghaerdydd, a pham ei bod hi’n llawer gwell sarhau pobl yn Gymraeg nag yn Saesneg.
Wrth olygu’r fideo hon rwyf wedi chwarae o gwmpas llawer gyda fframiau a gofod negyddol. Weithiau gwelwn un digrifwr yn unig ar y sgrin wrth i’r unigolyn ymateb i’r hyn mae’r llall yn ei ddweud. Gwelwn lawer o ofod gwag yn ystod y fideo.
Yn ystod y pandemig mae pawb wedi teimlo rhyw fath o wagle a bu’n rhaid dod i’r arfer â pheidio â gwneud rhai pethau yn ein bywydau pob dydd. Hefyd, rydym i gyd wedi teimlo dan bwysau gan wybod bod sawl rhan o gymdeithas yn gorfod gweithredu heb ddigon o adnoddau. Roeddwn i am adlewyrchu’r ymdeimlad hwn o absenoldeb yn y ffordd y dangosir y golygfeydd.
Hefyd, rwyf wedi cynnwys rhai lluniau o ddinas Caerdydd gan ddangos y strydoedd gwag yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae’r digrifwyr yn cyfeirio at sawl man, gan gynnwys Stryd y Castell a Caroline Street (‘neu ‘chippy lane’.)
Hefyd, gwelwn theatr wag yng Nghanolfan Chapter a phrif lwyfan gwag y Glee Club. Drwy ddangos y lleoliadau gwag hyn pan fo’r digrifwyr yn ei chael hi’n anodd meddwl am syniadau da, adlewyrchir y rhan bwysig y mae lleoliadau celfyddydol yn ei chwarae o ran meithrin creadigrwydd.
Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Alyson Henry:
I wybod mwy am Alyson Henry a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.