Cysylltu. Cydweithio. Caerdydd. Creadigol.
Nod Caerdydd Creadigol yw gwneud Caerdydd a’r rhanbarth yn brifddinas gysylltiedig, gydweithredol, cynhwysol a chreadigol.
Sefydlwyd Caerdydd Creadigol yn 2015 – gyda phartneriaid sefydlu Cyngor Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru a BBC Cymru Wales – i rwydweithio ac ehangu’r economi greadigol yn y ddinas a llunio naratif o Gaerdydd fel prifddinas greadigol lewyrchus ac arloesol.
Yn ystod y degawd diwethaf, mae rhwydwaith Caerdydd Creadigol wedi meithrin gwell cysylltiad, cydweithio a dealltwriaeth o economi greadigol Caerdydd drwy amrywiaeth o weithgareddau ac ymyriadau yn y ddinas ac ar draws y rhanbarth ehangach.
Cysylltu
Mae Caerdydd Creadigol yn cysylltu pobl greadigol o amrywiaeth o sectorau a disgyblaethau, ar-lein ac yn bersonol.
Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:
- Cyflwyno rhaglen gynhwysol o ddigwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu lle gall pobl greadigol wneud cysylltiadau newydd a rhwydweithio â chysylltiadau presennol
- Sicrhau bod cynulleidfaoedd Caerdydd Creadigol yn cael cyfleoedd i feithrin y perthnasoedd hyn â’i gilydd, yn enwedig traws-sectoraidd a rhyngddisgyblaethol
- Creu cyfleoedd i weithwyr llawrydd, artistiaid, busnesau ac ymarferwyr creadigol newydd ymgysylltu â Chaerdydd Creadigol mewn ffordd ystyrlon
- Gweithgareddau sy'n adeiladu cysylltiadau newydd, ac yn helpu i gynnull cymunedau creadigol newydd, gan gynnwys y tu allan i'r ddinas
Archwiliwch ein digwyddiadau a rhwydwaith sydd i ddod.
Cydweithredol
Mae sector cydweithredol yn un mwy arloesol, gwydn ac rydym yn ymdrechu i greu cyfleoedd ar gyfer cydweithio ar draws y diwydiannau creadigol.
Yn ogystal, rydym yn cydweithio â diwydiant, busnes, y llywodraeth a’r byd academaidd i annog syniadau newydd a allai gefnogi a thyfu’r sector.
Mae hyn yn cynnwys:
- Gweithgareddau ymchwil i fapio a deall y sector yn ein rhanbarth yn well
- Cysylltu, rhannu a chydweithio â rhwydweithiau a chlystyrau creadigol eraill yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol
- Cyflawni prosiectau mewn partneriaeth â busnesau, y llywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd i ehangu a chefnogi’r economi greadigol yn ein rhanbarth
- Gweithio mewn partneriaeth â’n sefydliadau addysg bellach ac uwch yn y ddinas a’r rhanbarth i ddarparu gwell cyfleoedd i bobl greadigol sy’n dod i’r amlwg
Archwiliwch ein Atlas Economi Greadigol Cymru a phrosiectau ymchwil.
Creadigol
Yn greiddiol i ni, rydym yn rhwydwaith llawr gwlad – rydym ar gyfer, a chyda, cymuned greadigol y ddinas. Rydym yn bodoli i ddod â phobl greadigol ynghyd ar gyfer cysylltiad a chydweithio ac i adrodd stori greadigol Caerdydd.
Mae hyn yn cynnwys:
- Rhannu stori creadigrwydd yn y ddinas trwy ymgyrchoedd, cyfweliadau ac erthyglau ar draws ein sianeli
- Hyrwyddo gallu creadigol y ddinas a’r rhanbarth ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol
- Hyrwyddo’r bobl greadigol a’r busnesau creadigol sy’n gweithio yn y ddinas, adrodd eu stori, hyrwyddo eu digwyddiadau, cyfleoedd a newyddion
Darllenwch ein newyddion diweddaraf a chyfweliadau gyda phobl greadigol.
Caerdydd
Fel rhwydwaith seiliedig ar le, mae Caerdydd – ei phobl, ei gofodau, ei hiaith, wedi’u gwreiddio’n ddwfn ym mhopeth a wnawn.
Mae hyn yn cynnwys:
- Dathlu ein lleoedd a gofodau’r ddinas
- Gweithio’n agos gyda busnesau allweddol a sefydliadau creadigol sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd i lywio ymagwedd a fydd o fudd i ecosystem a thirwedd greadigol y ddinas
- Dathlu hanes Caerdydd a’i photensial i’r dyfodol
- Dathlu dwyieithrwydd ac asedau diwylliannol unigryw Caerdydd
Darganfod mwy am leoedd a gofodau'r ddinas.
Rhagor o wybodaeth a chysylltu
Gallwch gysylltu drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk neu ffonio 02920 876188.
Edrychwch ar ein hymgyrchoedd a'n cyfweliadau diweddaraf trwy ymweld â'n tudalennau Twitter, Instagram, LinkedIn a Facebook.