Theatr y Sherman yn cyhoeddi rhaglen 2020

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 November 2019

Mae rhaglen newydd 2020 Theatr y Sherman yn parhau gyda'u cenhadedd o adrodd straeon lleol gyda pherthnasedd byd-eang a dod yn bwerdy theatr i Gymru.

Dyma'r tymor cyntaf dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig newydd, Joe Murphy, sy'n addo blwyddyn o theatr gyfredol wedi'i chreu wrth galon Caerdydd. Mae'r rhaglen o flaen y gad o ran ysgrifennu newydd gyda saith drama gan sgriptwyr o Gymru, pedwar premiere byd a chynyrchiadau gan Brad Birch, Katherine Chandler, Tracy Harris, Daf James a Lisa Parry. 

Meddai Joe Murphy am ei dymor cyntaf a chyhoeddi rhaglen 2020: 

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi fy nhymor cyntaf yn Theatr y Sherman. Mae'n gyffrous iawn cael lansio blwyddyn lawn o waith a dathlu dyfnder ansawdd artistig Cymru: yr artistiaid a gaiff eu hyrwyddo yma yw dechrau ein hymrwymiad i fod yn bwerdy i ddoniau o Gymru. Mae Tymor 2020 yn rhoi'r gynulleidfa wrth ei galon, gan gynnig straeon emosiynol ac effeithiol sydd wedi'u gwreiddio yng Nghymru, ond sy'n berthnasol i'r byd. 

“Mae'r theatr hon yn eiddo i bobl anhygoel ein dinas wych: rhywle i gwrdd, i rannu profiadau byw, ac i ddathlu ein diwylliant. I fi, dyma galon Caerdydd".”

Joe chatted with Nicola Heywood Thomas earlier this week about his plans for Sherman Theatre.

Bu Joe yn sgwrsio gyda Nicola Heywood Thomas yn gynharach yr wythnos hon, am ei gynlluniau yn Theatr y Sherman.

Full video / Fideo llawn: https://t.co/UekwTKqETT pic.twitter.com/sUGvGZ2nsY

— Sherman Theatre (@ShermanTheatre) November 15, 2019

Mae Cyfarwyddwr Artistig wedi datgelu gwledd newydd o Artistiaid Cyswllt gyda'r actor a'r awdur Kyle Lima, yr awdur a'r cyfansoddwr Seiriol Davies, y cynllunydd Hayley Grindle a'r actor Suzanne Packer yn ymuno a'r tîm. Mae Daf James erbyn hyn yn Awdur Preswyl ac mae Katherine Chandler, Gary Owen a Patricia Logue yn dychwelyd fel Artistiaid Cyswllt.

Bydd yr actor chwedlonol o Gymro, Rhys Ifans, yn dod yn Noddwr Theatr y Sherman. Meddai Rhys, a berfformiodd yn Theatr y Sherman yn ddiweddar yng nghynhyrchiad National Theatre Wales a Theatr Royal Court o On Bear Ridge gan Ed Thomas:  

"Mae'n hyfryd cael gofod fel y Sherman wrth galon y ddinas."

Bydd Rhys yn hyrwyddo'r ymgyrch Mabwysiadu Sedd er mwyn helpu i gefnogi ymdrechion y Sherman fel elusen gofrestredig i gynyddu incwm drwy roddion hael gan ymddiriedolwyr ac unigolion.

Cyhoeddwyd yn nigwyddiad lawnsio rhaglen 2020, mai Theatr y Sherman yw Theatr Noddfa gyntaf Cymru. Mae'r statws, a ddyfarnwyd gan elusen Dinas Noddfa, yn cydnabod y Sherman fel rhywle y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches deimlo'n ddiogel, wedi'u croesawu a'u cefnogi. 

 

Looking back at last Thursday's celebratory performance by the Oasis Choir & Drumming Group at the moment we were awarded Theatre of Sanctuary status by @CityofSanctuary.@ShermanTheatre5 @oasiscardiff #LoveTheatreDay pic.twitter.com/aTyZ8s4E4m

— Sherman Theatre (@ShermanTheatre) November 20, 2019

Meddai Julia Barry, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Sherman

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, drwy ein rhaglen Sherman 5 a'n gwaith gyda gwirfoddolwyr a phartneriaid yn y gymuned, rydyn ni wedi bod yn lwcus o gael dechrau partneriaeth ymgysylltiol a gwerthfawr gyda'r gymuned o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd. Mae'n fraint cael statws Theatr Noddfa, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at y cyfleoedd y bydd yn eu cynnig i ni wrth ddatblygu ein perthnasau ymhellach gyda'r gymuned fywiog hon yn ein dinas."

Mae Theatr Ieuenctid y Sherman yn parhau i ddatblygu gwneuthurwyr theatr y dyfodol. Y ddrama gyntaf i'w weld yn y Sherman bydd cynhyrchiad o The It gan Vivienne Franzmann ym mis Chwefror, a fydd wedyn yn mynd ymlaen i gael ei berfformio yng ngŵyl Connections. 

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyd-gynhyrchiadau gyda Theatr Genedlaethol Cymru, y National Theatr a Theatre Uncut. Bydd dangosiad cyntaf erioed o Tylwyth gan Daf James,  cynhyrchiad sydd eisoes wedi'i gyhoeddi ac sy'n gyd-gomisiwn ac yn gyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru, ac a gaiff ei gyfarwyddo gan eu Cyfarwyddwr Artistig Arwel Gruffydd. Mae Tylwyth yn ddrama ffraeth a diddorol sy'n dod â'r cymeriadau poblogaidd o ddrama lwyddiannus Daf, Llwyth yn ôl i'r llwyfan. Gan edrych yn rhyfygus ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae'n sylwebaeth bryfoclyd ar fywyd cyfoes yng Nghymru wrth ddilyn grŵp o ffrindiau hoyw sy'n byw yng Nghaerdydd. 

Mae tocynnau i bremiere byd #Tylwyth nawr ar werth yn @ShermanTheatre.

Tickets are now on sale for the world premiere of #Tylwyth at @ShermanTheatre.

Theatr y Sherman, Caerdydd / Sherman Theatre, Cardiff
10 - 13.03.20
https://t.co/EdxsbTeJUT pic.twitter.com/fLHrg2XEvI

— Theatr Genedlaethol Cymru (@TheatrGenCymru) November 15, 2019

Yn bumed cywaith rhwng Theatr y Sherman a gŵyl ysgrifennu NEW Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae dangosiad cyntaf Ripples gan Tracy Harris, cyfranogydd yn Rhaglen Dramodwyr Cymreig Newydd y Sherman. Caiff y ddrama afaelgar newydd hon, sydd wedi'i gosod mewn canolfan adsefydlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei chyfarwyddo gan Matthew Holmquist, cyfranogydd yng Ngrŵp Cyfarwyddwyr JMK y Sherman. 

Yn rhan o dymor 2020 bydd An Enemy of the People gan Brad Birch, sef y ddrama gyntaf y bydd Joe Murphy yn ei chyfarwyddo fel Cyfarwyddwr Artistig. Mae'r ail-gread amserol hwn o addasiad 2016 Brad o ddrama wreiddiol Ibsen yn ei gosod yng nghymoedd y de, ac mae'n stori afaelgar ar gyfer y cyfnod ôl-wirionedd.

Bydd y bartneriaeth a enillodd wobr Olivier rhwng Artist Cyswllt Theatr y Sherman, Gary Owen, a'r cyn-Gyfarwyddwr Artistig Rachel O'Riordan, yn ailuno ar gyfer cynhyrchiad cyntaf y byd o Romeo and Julie, a gyd-gomisiynwyd ac a gyd-gynhyrchwyd gyda'r National Theatre. Mae Romeo and Julie wedi'i gosod yng Nghaerdydd heddiw, yn ddrama newydd rymus a doniol wedi'i hysbrydoli gan drasiedi ramantus Shakespeare.

Ym mis Hydref 2020, bydd Theatr y Sherman yn llwyfannu dangosiad cyntaf erioed The Merthyr Stigmatist gan Lisa Parry mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Uncut. Cyrhaeddodd y ddrama y rhestr fer am Wobr Sgriptio Gwleidyddol Theatr Uncut 2019, yr oedd y Sherman yn bartner iddi. Bydd Emma Callander, Cyd-gyfarwyddwr Artistig Theatr Uncut, yn cyfarwyddo'r ddrama ffyrnig newydd hon lle mae disgybl ysgol o Ferthyr Tudful yn honni fod ganddi’r stigmata, clwyfau Crist.

Yn olaf ar y rhestr o gynhyrchiadau ar gyfer 2020 yw'r sioeau Nadolig. Bydd traddodiad Theatr y Sherman o gyflwyno cynyrchiadau Nadolig prif dŷ syfrdanol dan arweiniad actor a cherddor yn parhau gyda chynhyrchiad newydd o A Christmas Carol gan Gary Owen wedi'i gyfarwyddo gan Joe Murphy. Mae Gary wedi ail-edrych ar ei addasiad o stori glasurol Dickens, gan symud y stori i Gaerdydd yn Oes Fictoria, lle mae Ebenezer Scrooge yn dysgu ei bod yn gallu dod o hyd i hapusrwydd mewn trugaredd, caredigrwydd a chariad. I blant, bydd addasiad Katherine Chandler o'r chwedl glasurol Y Coblynnod a'r Crydd / Elves and the Shoemaker yn cynnig cyflwyniad perffaith i hud y theatr. 

Mwy o wybodaeth am y rhaglen.

Ochr yn ochr â chyhoeddi rhaglen tymor 2020, mae Theatr y Sherman wedi datgelu cyfres o fentrau newydd wedi'u cynllunio i barhau â'i gwaith yn helpu i adeiladu sector theatr bywiog a chynaliadwy yng Nghymru. Mae'r mentrau yma'n cynnwys:

  • Rhaglen Lleisiau nas Clywir ar gyfer sgriptwyr yn sicrhau bod lleisiau nad ydynt yn cael eu clywed yn cael eu clywed, a bod ysgrifennu newydd yng Nghymru yn adlewyrchiad gwell o ystod amrywiol o leisiau Cymru.
  • Bydd eu rhaglen Ty Agored yn golygu y bydd adnoddau Theatr y Sherman ar gael i gymuned greadigol Caerdydd, ac yn galluogi’r gymuned honno i ddefnyddio Theatr y Sherman fel eu cartref.
  • Partneriaeth gyda BBC Writersroom Cymru ar gyfer Lleisiau Cymru 19/20; grŵp datblygu i awduron gwadd i'w gynnal yn unol â BBC Dramâu Sain Cymru.
  • Bydd menter Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu y Sherman, sydd â'r nod o gyflwyno pobl rhwng 15 ac 18 oed (TGAU i Safon Uwch) i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan yn parhau yn 2020.

Mwy o wybodaeth am fentrau Theatr y Sherman. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event