Penblwydd Hapus Working Word!

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 6 November 2019

Aelod y Mis ar gyfer Tachwedd yw'r pwerdy cyfathrebu, Working Word. O ddangos uchafbwyntiau ac anturiaethau Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd i adrodd straeon am ddeinosoriaid bach yn rhydd yng Nghaerdydd - maen nhw wedi bod yn brysur iawn! Maen nhw wedi bod yn adrodd straeon strategol a chreadigol ar gyfer rhai o ymgyrchoedd cyfathrebu mwyaf Caerdydd a Chymru yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Wrth iddyn nhw ddathlu degawdau o straeon pwerus, penderfynon ni eu gofyn nhw am eu ffefrynnau dros y blynyddoedd. Dyma oedd ganddyn nhw i'w ddweud...

Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd 

Bu 500 o chwaraewyr oedd â phrofiad bywyd o fod yn ddigartref ac eithrio cymdeithasol, o bron 50 o wledydd, yn cymryd rhan mewn gŵyl bêl-droed wythnos o hyd a llawer mwy yng Nghwpan Pêl-droed Digartref y Byd yng Nghaerdydd yn haf 2019.    Ar y cyd â’r actor a’r actifydd Michael Sheen, fe fuon ni’n dylunio ac yn cyflwyno ymgyrch gyfathrebu strategol oedd yn defnyddio sawl sianel, gyda’r nod o newid canfyddiad y cyhoedd ynghylch y materion dan sylw.   Buom ni’n gweithio gyda’r cyfryngau ar draws y byd - BBC Breakfast, newyddion Channel 4, The Guardian, Sunday Times, Reuters a llawer mwy - fe wnaethon ni helpu i drefnu pabell drafod gydag anerchiadau ar y materion dan sylw, a pherfformiadau gan The Guilty Feminist, Sara Pascoe a Shreds:  Murder in the Dock, a chreu cyfres o ffilmiau a chynnwys cyfryngau cymdeithasol oedd yn troi pêl-droedwyr digartref yn arwyr. 

Amgueddfa Cymru Caerdydd: Babanod Deinosor  

Roedd Amgueddfa Cymru Caerdydd yn chwilio am asiantaeth i gynnal ymgyrch ddigidol i hyrwyddo’i harddangosfa ‘Babanod Deinosor’ hwylus i deuluoedd.  Fel rhan o ymgyrch arbrofol a arweiniwyd gan yr arbenigwyr digwyddiadau SC Productions gwelwyd gosodiadau’n ymddangos ar draws canol dinas Caerdydd dros gyfnod o 10 diwrnod, yn arwain at lansio’r arddangosfa, oedd yn cyflwyno naratif deinosor sydd wedi torri’n rhydd.   Bu ein hymgyrch ddigidol yn chwarae gydag oes y newyddion ffug, ac yn creu papur newyddion ac adroddiad teledu dyddiol o’r enw ‘Y Draco Dyddiol’ (enw’r deinosor o Gymru y seiliwyd yr arddangosfa arno oedd y ‘Dracoraptor’), oedd yn adrodd ar y digwyddiadau fel petaen nhw’n digwydd mewn bywyd go iawn.    Bu’r ymgyrch yn helpu i gyfrannu at werthiant tocynnau a nifer ymwelwyr uwch nag erioed yn yr Amgueddfa, ac enillwyd gwobrau gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus am yr Ymgyrch Cyfryngau Cymdeithasol Orau, a’r Gwobrau Dylunio a Chyfathrebu Rhyngwladol yn Los Angeles. 

Gwlad - Gŵyl Cymru’r Dyfodol - 20 mlynedd o ddatganoli  

Rhywun arall oedd yn dathlu 20 mlwyddiant eleni oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.   Buom ni’n gweithio gyda nhw ar ŵyl i ddathlu, gan gynnig brand (Gwlad), trefnu siaradwyr, sicrhau partneriaid a chydlynu a ffilmio llongyfarchiadau gan sêr.  

BAFTA Cymru

Mae ein tîm yn gweithio gyda BAFTA Cymru ar eu gwobrau blynyddol, yn trefnu’r carped coch, yn rheoli cyfweliadau’r cyfryngau ar gyfer y sêr ac yn sicrhau bod y storïau’n cyrraedd y cyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol.   Arweiniodd digwyddiad mis Hydref at sylw yn y Sunday Times ar gyfer storïau gyda Ruth Jones o Gavin and Stacey ac Anthony Daniels o Star Wars (fe yw C3PO!).  

Dydd Miwsig Cymru 

Mae sîn cerddoriaeth Cymru yn mynd trwy oes aur - ac mae llawer o’r gerddoriaeth honno’n cael ei chreu yn yr iaith Gymraeg.   Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu pob math o fiwsig, o hip hop i roc, ac o electronica i indie.   Mae ein hymgyrch Cysylltiadau Cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol yn awgrymu i gynulleidfaoedd y gallai eu hoff gân nesaf fod yn un Gymraeg, ac un o’r uchafbwyntiau oedd cyfweliad yn trafod y tonau gyda Huw Stephens ar soffa BBC Breakfast.   Ac yn well na ffeindio eich jam newydd? Dywedodd 74% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg fod Dydd Miwsig Cymru yn gwneud iddyn nhw fod eisiau dysgu rhagor o Gymraeg, rhywbeth sy’n allweddol ar gyfer targed y llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Burns Pet Nutrition  

 Dogs are helping children read in parts of #Wales@Burnscommunity #Dog #TherapyDogs @educationsu @SwanseaUni pic.twitter.com/clXIfQqDlO

— BBC Breakfast (@BBCBreakfast) April 18, 2019

Dewch i gwrdd â Brambles a Jonesy.   Dyma ddau seren cangen elusennol ein cleient gwych Burns Pet Nutrition, Burns in the Community.   Mae menter Burns by Your Side yn rhaglen a arweinir gan wirfoddolwyr lle mae cŵn yn ymweld ag ysgolion ac yn eistedd gyda phlant sy’n darllen yn uchel iddyn nhw, gyda’r nod o roi hwb i’w sgiliau llythrennedd a chyfathrebu.  Mae’r cynllun, sydd wedi cael ei beilota mewn 60 o ysgolion ar draws De Cymru, yn awr yn ehangu, ac fe wnaethom ni drefnu bod BBC Breakfast yn dod i weld y cŵn darllen ar waith, gan ennyn diddordeb ysgolion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. 

Darllediad gwleidyddol Plaid Cymru

Mae ein tîm yn gweithio gyda Phlaid Cymru ar ddarllediadau gwleidyddol a ddangosir cyn etholiadau, fel y ffilm fer symudiad stop wedi’i hanimeiddio a gafodd ei chwarae ar y BBC, ITV ac S4C cyn Etholiadau Ewrop yn 2018. 

Bwyd a Diod Cymru

I gyd-fynd â Dydd Gŵyl Dewi, fe fuom ni’n gweithio gyda Bwyd a Diod Cymru ar ymgyrch i hyrwyddo’r ystod amrywiol o gynhyrchwyr bwyd o Gymru.  Roedd ein hymgyrch cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys sicrhau a threfnu pum taith i’r wasg, gan gynnwys y London Evening Standard a chylchgrawn Olive, lle cawson nhw ‘flas’ ar rai o’r cynhyrchwyr a’r cogyddion gorau sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd.  Yn ogystal â chynnig am sylw a’i sicrhau ar gyfer amrywiaeth o gynhyrchwyr ar draws y cyfryngau cenedlaethol, buom ni hefyd yn trefnu digwyddiad brecinio dylanwadwyr ym mwyty’r cogydd o Gymru, Tom Simmons, yn London Bridge, lle cafodd rhai o brif  ddylanwadwyr bwyd Llundain gyfle i brofi bwydlen unigryw gydag ysbrydoliaeth o Gymru ar ddydd Gŵyl Dewi, a rhannu hynny ar eu sianeli cymdeithasol. 

Achosion Da y Loteri Genedlaethol

Roedd y Loteri Genedlaethol eisiau dathlu degawdau o newid bywydau trwy gyfrannu miliynau o bunnoedd i achosion da yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint, trwy lansio ymgyrch oedd yn hyrwyddo pobl leol eithriadol.  Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, mae’r Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu bron £101m at fwy na 4,600 o achosion da yn yr ardal.   Bu ein hymgyrch yn adrodd rhai o’u storïau, gan sicrhau sylw yn y Sunday Times.   Dangosodd arolwg wedi’r ymgyrch fod y storïau yn wir wedi helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o sut mae arian y Loteri yn cefnogi achosion da lleol.

Croeso Cymru 

Rydym ni’n gweithio gyda Croeso Cymru ar amrywiaeth o ffilmiau cynnwys, darlleniadau hir, storïau Instagram, byrddau Pinterest a mwy - ar gyfer ymgyrch #DymafyNghymru.  Mae ein stori ddiweddaraf, gyda Lisa Jen o’r band 9Bach ar ei hoff leoedd i ymweld â nhw yn ardal Bethesda yn gwneud i ni eisiau anelu am y gogledd...

Working Word yw Aelod y Mis ar gyfer Tachwedd, os hoffech wybod mwy am eu gwaith ewch i'w proffil Caerdydd Creadigol neu eu gwefan. 

Gwefan- www.workingword.co.uk. Twitter- @workingwordpr . Instagram- @workingword  

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event