Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru 2019 neithiwr (13 Hydref) mewn noson sy'n dathlu'r helaeth o dalent ffilm a theledu yma yng Nghymru. Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth o ran darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddoniau creadigol. Dychwelodd cyflwynydd BBC Radio 1, Huw Stephens, i'r llwyfan i gyflwyno'r seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd Dewi Sant gyda pharti'n dilyn yng Ngwesty'r Raddison Blue.
Camodd nifer o gyflwynwyr adnabyddus eraill ar y llwyfan i gyflwyno amryw o wobrwyon yn ystod y noson gan gynnwys Ruth Jones (Gavin and Stacey, Stella), Joanna Scanlan (No Offence, Requiem, The Accident), Craig Roberts (Horrible Histories: Rotten Romans, Just Jim, Submarine) a Edward Bluemel (Killing Eve, A Discovery of Witches).
Cyflwynwyd 26 Gwobr yn ystod y seremoni gerbron cynulleidfa o 900 o westeion a darparwyd cynnwys ychwanegol ar-lein gyda ffrwd fyw o’r seremoni ac, am y tro cyntaf eleni, cynhaliwyd cyfweliadau cefn llwyfan â’r enillwyr ar sianeli cyfryngau cymdeithasol BAFTA. Mwynheuodd y gwesteion berfformiad byw gan y gantores/gyfansoddwraig o ogledd Cymru, Casi Wyn, ac roedd Jo Hartley (This is England, Eddie the Eagle, In My Skin), cast Doctor Who a’r actor/cyfarwyddwr tro cyntaf Tom Cullen (Downton Abbey, Knightfall) a Elis James yn bresennol i gefnogi’r enwebeion.
Nid yn unig i Huw Stephens gyflwyno'r gwobrau, ond fe ennillodd un ei hun am ei waith yn cyflwyno'r rhaglen ddogfen am gerddoriaeth, Anorac. Fe enillodd y cynhyrchiad cyfanswm o bedair gwobr – ar gyfer Golygu (Madoc Roberts), Ffotograffiaeth: Ffeithiol (Joni Cray a Gruffydd Davies) a Sain (Jules Davies) yn ogystal â gwobr am gyflwyno'n mynd i Huw Stephens. Yn y categorïau perfformio eraill, enillwyd y wobr actores gan yr enwebai tro cyntaf Gabrielle Creevey am ei rôl yn In My Skin, a enillodd y categori Drama Deledu hefyd. Cyflwynwyd y wobr actor i Celyn Jones am ei rôl fel Levi Bellfield yn nrama ITV Manhunt, yr enillodd y cyfarwyddwr Marc Evans y wobr Cyfarwyddwr: Ffuglen amdani.
Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru:
Mae’r dalent aruthrol yn y diwydiant ffilm, gemau a theledu yn parhau i ragori ar draws yr holl feysydd crefft, perfformio a chynhyrchu a gynrychiolir yn ein Gwobrau. Bu’n galonogol gweld yr ymgysylltiad mwyaf erioed o ran nifer y ceisiadau a dderbyniwyd eleni, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r enwebeion a’r enillwyr i gynnig cyngor ac ysbrydoliaeth i’r rhai sy’n awyddus i weithio yn y meysydd hyn trwy ein rhaglen ddigwyddiadau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.
ENILLWYR GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU 2019
(wedi’u rhestru yn ôl y drefn gyflwyno)
- RHAGLEN ADLONIANT
Priodas Pum Mil
- DRAMA DELEDU (a noddwyd gan Gyngor Caerdydd)
In My Skin
- NEWYDDION A MATERION CYFOES (a noddwyd gan Working Word)
The Universal Credit Crisis
- FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL (a noddwyd gan Genero)
Joni Cray a Gruffydd Davies ar gyfer Anorac
- RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL (a noddwyd gan Brifysgol Aberystwyth)
Critical: Inside Intensive Care
- FFILM FER (a noddwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)
Girl
- GWOBR TORRI TRWODD
Jamie Jones
- GOLYGU (a noddwyd gan Gorilla)
Madoc Roberts ar gyfer Anorac
- CYFARWYDDWR: FFEITHIOL (a noddwyd gan Capital Law)
Mei Williams ar gyfer The Incurable Optimist
- CYFRES FFEITHIOL (a noddwyd gan Acuity Law)
Velindre – The Hospital of Hope
- GWOBR SIÂN PHILLIPS (a noddwyd gan Bad Wolf)
Bethan Jones
- SAIN (a noddwyd gan AB Acoustics)
Jules Davies ar gyfer Anorac
- CYFLWYNYDD (a noddwyd gan Deloitte)
Huw Stephens ar gyfer Anorac
- GÊM
Time Carnage VR
- COLUR A GWALLT (a noddwyd gan Ken Picton)
Claire Williams ar gyfer Apostle
- DYLUNIO CYNHYRCHU (a noddwyd gan DRESD)
Catrin Meredydd ar gyfer Black Mirror: Bandersnatch
- FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN (a noddwyd gan ELP)
Adam Etherington ar gyfer Gwen
- CYFARWYDDWR: FFUGLEN (a noddwyd gan Champagne Taittinger)
Marc Evans ar gyfer Manhunt
- FFILM NODWEDD/DELEDU (a noddwyd gan Ysgol Ffilm a Theledu Cymru)
Last Summer
- AWDUR (a noddwyd gan The Social Club. Agency)
Russell T Davies ar gyfer A Very English Scandal
- EFFEITHIAU ARBENNIG A GWELEDOL (a noddwyd gan Bomper Studio)
Bait Studio ar gyfer Apostle
- RHAGLEN BLANT (a noddwyd gan Ganolfan S4C yr Egin)
Going for Gold
- DYLUNIO GWISGOEDD
Dinah Collin ar gyfer Gwen
- CYFRANIAD EITHRIADOL I DELEDU (a noddwyd gan Lywodraeth Cymru)
Lynwen Brennan, Lucasfilm
- ACTORES (a noddwyd gan Waterstone Homes)
Gabrielle Creevy ar gyfer In My Skin
- ACTOR (a noddwyd gan AUDI UK)
Celyn Jones ar gyfer Manhunt
Cadarnhawyd mai noddwyr a phartneriaid y digwyddiad yw AB Acoustics, Prifysgol Aberystwyth, Audi UK, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Bluestone Brewery, Buzz Magazine, Capital Law, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Clarins, Cuebox, Da Mhile Gin, Deloitte, DRESD, EE, Elstree Light and Power, Gorilla, Iceland, ITV Wales, Ken Picton Salon, Mad Dog 2020 Casting, Radisson Blu, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, Neuadd Dewi Sant, Taylor Bloxham, The Social Club, Agency, Trosol, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Villa Maria, Waterstone Homes, Llywodraeth Cymru, Working Word a’r Egin.