Pobl Caerdydd: Alun Saunders

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 8 October 2019

Mae Alun Saunders yn ddramodydd, yn actor a bellach yn adnabyddus am ei bersona drag, Connie Orff. Cyd-sefydlodd y cwmni cynhyrchu theatr, Neontopia, ar y cyd â'r gyfarwyddwraig, Mared Swain a bellach mae'n awdur preswyl i'r cwmni. Cynhyrchwyd drama ddwyieithog Alun, A Good Clean Heart, gan The Other Room fel eu darn cyntaf erioed o 'sgwennu newydd, a llynedd 'sgwennodd y ddrama Tuck, a berfformiwyd ar lwyfan Ffresh yng Nghanolfan y Mileniwm. Mae wedi sgwennu i Theatr na n'Og, Sherman Theatr a Dirty Protest Theatre. Mae hefyd yn sgwennu ar gyfer y teledu ac ar hyn o bryd yn sgwennu i'r rhaglen deledu boblogaidd ar S4C, Gwaith Cartref. Dyma'r actor amldalentog yn rhannu ei feddyliau am weithio yng Nghaerdydd a thaflu ei hun mewn i fyd drag.

Siarada ychydig bach am yr hyn rwyt ti’n gwneud? 
Wedi i fi hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dwi wedi gweithio fel Actor, ond hefyd wedi gweithio fel Sgwennwr, gan sgwennu ar gyfer y theatr a theledu ers tua 10 mlynedd. Fel rhan o'r ddrama lwyfan dwetha' sgwennes i (Tuck, gafodd ei pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o dymor Perfformiadau i'r Chwilfyrdig yn 2018), nes i gwrs 10-wythnos mewn Drag... A ma hynna wedi arwain at yrfa newydd ac annisgwyl iawn! Ganed Connie Orff i'n byd.
 
Pam wyt ti wedi penderfynu gweithio yng Nghaerdydd? 
Wedi'n hyfforddiant actio yn 2002, nes i gwrdd â fy ngŵr ac aros yng Nghaerdydd. Basai Llundain wedi bod yn opsiwn, ond ro'n i'n hapus iawn gyda Chaerdydd ar y pryd... A dwi ddim wedi newid fy meddwl. Mae 'na gyfleoedd gwych i weithio'n ddwyieithog fel Actor, Sgwennwr a pherfformiwr Drag yma. Mae 'ngŵr i erbyn hyn wedi sefydlu'r Parc Deli ger Parc Fictoria, ac er fod rhedeg busnes dy hun yn her anferthol, mae'n llwyddo hyd yn hyn. Mae Caerdydd wedi'n siapo ni'n dau dros y ddeunaw mlynedd ry'n ni wedi byw yma, ac erbyn hyn mae'n siapio'n plant ni hefyd. Dwi wedi gweld gymaint o bobol yn dod i ymweld a chwympo mewn cariad â'r ddinas. Ma'n sbeshal.
 
Be sy’n dy ysbrydoli di ynglŷn â gweithio yng Nghaerdydd? 
Mae gyda fi rwydwaith hollwych a phositif o ffrindiau ond hefyd o gydweithwyr yma. Fel gweithiwr llawrydd, ma'i braidd yn od i ddisgrifio pobol fel cyd-weithwyr (a mae llawer ohonyn nhw'n ffrindiau hefyd), ond maen nhw'n fwy na 'chyfoedion'. Fel unryw ddinas, mae'n rhaid i ti fynd allan a chnocio ar ddrysau, gofyn am gyfleoedd (a gofyn, a gofyn!), ond mae 'na gyfleoedd. Dwi'n teimlo fod Caerdydd yn ddigon agored a chyfeillgar i allu gofyn i bobol am y cyfleoedd hynny.
 
Wyt ti wedi wynebu unrhyw heriau wrth weithio yng Nghaerdydd? 
Yr unig beth 'swn i'n dweud yw fod dal angen i bobol tu allan i Gaerdydd ymddiried yn y talent sydd yma. Mae 'na lwythi o unigolion a chwmnïau theatr a theledu talentog yma, ond ry'n ni dal ar ei hôl hi - yn fy marn i - gyda faint o gynnyrch Drama a Chomedi ry'n ni'n ei weld ar deledu cenedlaethol/rhwydwaith yn dathlu'r ddinas (hynny yw, gan ddefnyddio'r ddinas fel lleoliad ond ei guddio fel Llundain, Bryste ayyb). Dwi am weld y cwmnïau cynhyrchu a darlledwyr mawr sy'n creu neu'n saethu pethau yma yn buddsoddi yn y talent sydd yma.
 
Pa mor llwyddiannus wyt ti’n credu y mae Caerdydd wedi bod yn trawsnewid ei hun mewn i ganolbwynt creadigol, yn enwedig yn dy faes di o waith? 
Pan ro'n i'n astudio yn CBCDC roedd rhai gwersi lawr ym Mae Caerdydd, a hynny pan oedd Canolfan Mileniwm Cymru (a gweddill y Bae fel mae hi nawr) yn cael ei datblygu a'i hadeiladu. Mae gweld y datblygiad hwnnw'n wych, a mae fy mherthynas i gyda CMC wedi tyfu'n un mor, mor werthfawr i'm gyrfa i. Mae CMC yn arwain y ffordd yn y ddinas ac yn fy maes i o ran cynnwys pobol, cynnig cyfleoedd, a chynnig llawer, llawer mwy na theatr 'bums-on-seats' lle bo'r arian yn unig sy'n bwysig. 
 
Yn dy farn di, beth sydd angen digwydd er mwyn gwneud Caerdydd yn ddinas fwy creadigol? 
Hyder. Ry'n ni angen yr hyder i greu, i barhau i fod yn arloesol. Er fy mod i'n gredwr yn ein diwylliant ni (sydd yn medru bod yn 'self-contained' mewn ffordd), baswn i hefyd wir yn licio gweld cynnyrch artistig Caerdydd (a Chymru) yn cael ei rannu â'r byd. Gyda hyder yn ein hiaith, ein diwylliant a'n cynnyrch artistig, mi allwn ni ei rannu heb ronyn o ymddiheurad am fod yn wahanol. 
 
Beth wyt ti’n credu dylai Caerdydd Creadigol wneud yn y dyfodol? 
Mae 'na gymuned o artistiaid gwych yma yng Nghaerdydd a'r cyffiniau... Yn enwedig pobol sy'n creu theatr, sydd â'u ffocws ar greu straeon heriol, diddorol ac engaging. Falle y galle hi fod yn wych i dynnu pobol at ei gilydd, a'u cyflwyno nhw i'r gymuned greadigol ehangach i gael rhannu sgiliau neu fentora pobol?
 
Disgrifia dy hoff le creadigol i weithio yng Nghaerdydd? 
Dwi'n hollol biased ond ma gan y Parc Deli y coffi, y brecwast a'r burritos gorau'n y ddinas. Yn ôl y sôn ma' rhai o'r cwsmeriaid jyst yn nabod fi fel 'Laptop Man'... Yn ishte yn y gornel yn gweithio (ac ebostio) ar y laptop ac yn yfed coffi! Mae e ger y parc felly dwi'n gallu mynd i stretsho 'nghoesau ac, i ni, mae'n agos i ysgol y plant i gael casglu nhw ar ddiwedd y dydd! 
 
x unigolyn creadigol yng Nghaerdydd y dylwn ni gyd wybod mwy amdani / amdano?
Elise Davison. Mae Elise yn Gyfarwyddwr Artistig ar gwmni Taking Flight, sy'n creu gwaith y-m-e-i-s-i-n-g sy'n aml yn rhoi perfformwyr gydag anableddau wrth wraidd eu cynhyrchiadau. 
 
Beth sydd nesaf i ti? Pa brosiectau sydd gen ti ar y gorwel? Pa syniadau wyt ti’n gweithio arnynt?
Mae gigs amrywiol Connie Orff yn parhau i fynd o nerth i nerth... O glybiau swper i wyliau comedi ar draws y wlad. Dwi wedi bod yn curadu a chyflwyno cyfres o Glybiau Swper Drag yng Nghanolfan y Mileniwm dros yr haf, sydd wedi bod yn lysh, wedyn ma' gen i gig Nadolig rili hwyl nes mlaen yn y flwyddyn ar nos Wener, Rhagfyr 6ed. Dwi'n gweithio fel Sgwennwr ar brosiect theatr rili cyffrous mewn tair iaith ar hyn o bryd... Cymraeg, Saesneg a BSL (British Sign Language). Ma' hyn yn rili cyffrous o brosiect, yn gweithio gydag actores o'r enw Stephanie Back, ac yn un dwi'n dysgu LOT arni hefyd!

Bydd perfformaid nesaf Connie Orff yn un arswydus o dda wrth iddo hawlio Supper Clwb Canolfan y Mileniwm dros benwythnos Calan Gaeaf. Ewch yn llu! 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event