Sgript yr awdur yn cael ei gomisiynu yng ngwobrau BBC Cymru Wales, BBC Writersroom Cymru a National Theatre Wales
Rhiannon Boyle sydd wedi ennill gwobr Awdur Preswyl Cymru, gwobr sy’n cael ei gynnal am y tro cyntaf eleni. Bydd y sgriptiwr o Gaergybi yn cael cyfle unigryw i ddatblygu ei chrefft dros gyfnod o flwyddyn dan arweiniad y BBC Cymru, BBC Writersroom Cymru a National Theatre Wales.
Fel rhan o’i gwobr bydd BBC Radio 4 a/neu BBC Sounds yn gwarantu credyd darlledu i Rhiannon, ynghyd â bwrsari gwerth £12,000, a dau gyfnod preswyl olynol; chwe mis gyda BBC Cymru a BBC Writersroom Cymru fydd yn cynnwys gweithio gyda BBC Studios, ac yna chwe mis gyda National Theatre Wales. Bydd yn cael ei mentora gan Matthew Hall awdur Un Bore Mercher/Keeping Faith a oedd yn feirniad gwadd ar gyfer y gystadleuaeth.
Dywedodd Matthew Hall:
“Roedd gan bob sgript oedd ar y rhestr fer rinweddau unigryw ac roedden nhw i gyd yn cynnwys cymeriadau diddorol ac annisgwyl. Roeddwn i’n chwilio am stori oedd yn cynnwys elfennau hanfodol drama: cymeriad canolog cymhleth ac aml-haenog ynghyd â stori sy’n cynnwys gwrthdaro dramatig a throadau annisgwyl. Roedd yn benderfyniad anodd, ond yn y pen draw roedd sgript Rhiannon yn cyfuno mwy o’r cynhwysion hanfodol hyn na sgriptiau’r ymgeiswyr eraill ac mae hi wedi creu prif gymeriad sy’n gadael argraff barhaol.”
Derbyniodd Rhiannon y wobr mewn seremoni arbennig yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ar nos Fercher 2 Hydref ar set y cyd-gynhyrchiad diweddaraf rhwng National Theatre Wales a’r Royal Court Theatre, sef On Bear Ridge gan Ed Thomas.
Hyfforddodd Rhiannon fel actor yn wreiddiol ond dechreuodd ysgrifennu yn 2007 ac mae ganddi gredydau ysgrifennu ar gynyrchiadau ar gyfer S4C.
Mae’r sgript fuddugol, Impacted, yn adrodd stori Alys, athrawes sy’n cael trafferth ymdopi pan fo cydweithiwr sy’n ffrind iddi yn cael ei arestio am fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant. Wedi’i llorio gan deimladau o ddryswch ac anghrediniaeth, mae Alys yn troi at y rhyngrwyd i geisio gwneud synnwyr o’r hyn ddigwyddodd.
Dywedodd Rhiannon Boyle Awdur Preswyl Cymru:
“Mae ennill Awdur Preswyl Cymru yn gyfle anhygoel oherwydd mae gen i gymaint o straeon difyr i’w hadrodd. Yn gynnar fel hyn yn fy ngyrfa ysgrifennu, bydd y fentoriaeth a’r cymorth yn helpu i ddatblygu fy llais a gloywi fy sgiliau. Dyma lwyfan gwych i lansio fy ngyrfa mewn drama ac rydw i’n edrych ymlaen yn arw at ddechrau arni gyda’r BBC a National Theatre Wales.”
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru:
“Llongyfarchiadau mawr i Rhiannon ar ennill cyfnod preswyl eleni. Mae ganddi ddawn arbennig i adrodd straeon, a bydd yn gyffrous yn gwylio’n datblygu dros y 12 mis nesaf. Mae BBC Cymru a National Theatre Wales wedi ymrwymo i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o awduron o Gymru ac mae cystadleuaeth eleni wedi dangos unwaith eto bod talent anhygoel i’w chael yma.
Dywedodd Kully Thiarai, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales:
“Llongyfarchiadau mawr i Rhiannon Boyle ar ennill gwobr Awdur Preswyl Cymru mewn gornest hynod gystadleuol. Roedd ei sgript yn gyfoethog ac roedd y stori a’r cymeriadau yn mynd i’r afael â phwnc dyrys mewn ffyrdd annisgwyl, gan ein tynnu i mewn i fyd emosiynol Alys y prif gymeriad.
“Rydw i wrth fy modd gyda’r ymateb gwych i gynllun Awdur Preswyl Cymru, cynllun sy’n dathlu ac yn codi proffil yr awduron talentog sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae’r rhestr fer yn adlewyrchu safon y cyflwyniadau a gafwyd eleni gydag amrywiaeth eang a chyfoethog o sgriptiau. Rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu Rhiannon i dîm National Theatre Wales ac at weithio’n agos gyda hi er mwyn datblygu ei syniadau yn waith llwyfan gwreiddiol.”