Pobl Caerdydd: Alice Hawthorne

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 24 September 2019

Mae Alice Hawthorne yn arlunydd yng Nghaerdydd, yn ddylunydd graffeg a sylfaenydd cwmni dylunio Aliceartwork. Mae ganddi dros 7 mlynedd o brofiad yn y diwydiant dylunio gyda sgiliau yn amrywio o gynllun, darlunio ac argraffu i'r we. Yn fwyaf diweddar, gwnaeth Alice arddangos ei gwaith gydag arddangosfa o'r enw 'noson yn y syrcas' a ganolbwyntiodd ar arwyddion syrcas hen ffasiwn. Aethom i'r lansiad yn Emporiwm y Castell yn Stryd Womanby a rhyfeddu at y llythyrau euraidd a'r rhai brith. Gwnaethom hefyd ddal i fyny gydag Alice yn nes ymlaen i ofyn iddi pa mor llwyddiannus oedd Caerdydd o ran bod yn gartref i ddylunio.

Pam rydych chi wedi dewis gweithio yng Nghaerdydd? 

Ar ôl gorffen fy ngradd a'm gradd feistr yng Nghaerdydd penderfynais fy mod wedi gwneud digon o gysylltiadau i’m sefydlu fy hun fel dylunydd, a dyna oedd dechrau fy nghwmni dylunio Aliceceatwork. Roedd fy mam-gu a'm tad-cu a'r rhan fwyaf o'm teulu yn byw yng Ngorllewin Cymru felly rwyf wedi symud yn araf tuag at y brifddinas. Rwy'n credu bod y sefyllfa greadigol yng Nghaerdydd yn fwrlwm o greadigrwydd. 

Pa heriau sydd wedi eich wynebu wrth weithio yng Nghaerdydd?

Yr her fwyaf i mi yw dod â chymunedau creadigol gwahanol at ei gilydd a allai fanteisio'n wirioneddol ar ei gilydd. O fod yn ddylunydd ac yn argraffwr, rwyf bob amser yn llwyddo i ddod o hyd i gyflenwyr yn lleol, ond gall fod yn anodd iawn dod o hyd iddynt. Mae'n rhaid i chi wneud yr ymdrech ac weithiau mae'r cyflenwr sydd ei angen arnoch ychydig i lawr y ffordd yn hytrach nag yn Llundain neu ymhellach i ffwrdd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig defnyddio cyflenwyr lleol a chefnogi'n gilydd mewn dinas fel Caerdydd. Dyna beth roeddwn i’n ceisio ei wneud ar gyfer fy arddangosfa ddiweddaraf, nid oedd yn rhywbeth i ddylunwyr ac artistiaid yn unig, roeddwn i eisiau i bawb roeddwn i'n ei adnabod ddod i'w brofi ac i siarad â'i gilydd. 

I ba raddau rydych chi’n credu bod Caerdydd wedi llwyddo i’w gwneud ei hun yn brifddinas greadigol, yn enwedig yn eich maes gwaith chi? 

Rwy'n credu bod Caerdydd yn dechrau cymryd camau breision i gyfeiriad bod yn brifddinas greadigol, ond mae yna ffordd i fynd o hyd. Mae'n wych gweld y nifer cynyddol o wneuthurwyr a chynhyrchwyr yn ymlwybro i Gaerdydd. Yn myd ysgrifennu arwyddion ac euro gwydr, mae'n sicr y bydd dilyniant enfawr gyda'r artist yn mynd yn ôl i dechnegau traddodiadol. Yn benodol, mae gan Gaerdydd hanes cyfoethog o arwyddion siopau a ddefnyddiodd dechnegau traddodiadol i greu eu harwyddion, felly mae'n braf gweld yr arcedau'n mabwysiadu'r un dechneg. 

Yn eich barn chi, pa dri pheth y mae angen iddyn nhw ddigwydd i wneud Caerdydd yn ddinas fwy creadigol? 

Mae angen i Gaerdydd fod ychydig yn fwy agored o ran cysylltu gwahanol gymunedau, mae'n ddinas gymharol fach ac eto mae cymaint o hybiau ar wahân sydd ddim yn cysylltu â'i gilydd. Byddai'n wych eu cael i gysylltu mwy a gweld i ble y bydd yn arwain. 

Beth rydych chi’n credu y dylai Caerdydd Greadigol geisio ei gyflawni? 

Rwy'n credu y dylai Caerdydd Greadigol geisio cysylltu cymaint o bobl, digwyddiadau a phobl greadigol â phosibl at ei gilydd gan ei bod yn wirioneddol ysbrydoledig gweld y gymuned yng Nghaerdydd yn tyfu drwy bob prosiect neu ddigwyddiad mawr. Gŵyl Ddylunio Caerdydd sy'n digwydd ddechrau mis Hydref er enghraifft. Byddai hefyd o gymorth mawr i gael llyfrau melyn o gyflenwyr, a rhestr o ddigwyddiadau. 

Beth sydd nesaf i chi? Pa brosiectau sydd ar y gweill? Pa syniadau newydd ydych chi’n gweithio arnyn nhw?

Mae gen i ychydig o gomisiynau preifat yn dod i fyny dros y misoedd nesaf ac yn arwain at gyfnod prysur y Nadolig. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar chwilio am ychydig o leoedd mawr i wneud rhai murluniau felly os oes gan unrhyw un y fath le byddwn i â diddordeb mewn clywed amdanynt. Rwyf bob amser yn edrych ar ddatblygu fy set o sgiliau gyda gwahanol gyfryngau a thechnegau sy'n cyfuno dylunio graffig ac ysgrifennu arwyddion/gwaith gwydr. Hefyd ar gyfer Gŵyl Ddylunio Caerdydd, mae’n dŷ agored yn fy man gweithio ar y cyd, Meanwhile House. Yn y cyfamser, byddaf yn arddangos fy ngwaith. 
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod draw i weld gwaith Alice yn nhŷ agored Gŵyl Ddylunio Caerdydd cliciwch yma.

Cipolwg ar y broses o greu ei darn diwethaf o waith ar gyfer arddangosfa 'A Night at the Circus'. 

Os hoffech weithio gydag Alice neu wybod mwy am ei chelf cliciwch yma

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event