5 peth fe ddysgon ni yn y gynhadledd CKC 2019.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 18 September 2019

Mae’r gynhadledd CKC (Creadigrwydd, Gwybodaeth, Dinasoedd) yn gyfarfod blynyddol o feddyliau creadigol ac academaidd o bedwar ban byd, a’i nod yw archwilio’n feirniadol y tensiynau rhwng y sector diwylliannol, dinasoedd a phrifysgolion. Mae’r gynhadledd, a lansiwyd yn 2018 gan y Grŵp Economïau Creadigol, sy’n rhan o’r Ganolfan Ymchwil Diwylliannau Digidol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste, yn gymharol newydd, ac mae’n bwriadu sbarduno trafodaeth fywiog am ystyr bod yn ddinas greadigol heddiw drwy ofyn nifer o gwestiynau pwysig iawn, gan gynnwys:  

“Sut y gallwn liniaru costau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol niferus ac amrywiol polisi trefol creadigol?

Cynhaliwyd cynhadledd CKC 2019 yn Watershed Bryste dros ddeuddydd (12–13 Medi), a rhoddodd y cyfle i gynadleddwyr gael sgwrs feirniadol gyda rhai o ymchwilwyr blaenllaw y DU, llunwyr polisïau ac ymarferwyr drwy baneli, byrddau crwn a gweithdai. 

Roedd CKC 2019 eleni: Rethinking, Resisting and Reimagining the Creative City yn parhau â’r drafodaeth, ac roedd Rheolwr Prosiect Caerdydd Creadigol, Vicky Sutton, yno i gynrychioli Uned Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Roedd themâu eleni yn cynnwys Hanesyddu Polisi ac Ymarfer Creadigol, Diwylliannau Lleol o Wydnwch a Phrifysgolion a’r Ddinas Greadigol. Daeth siaradwyr o’r DU ac ymhellach i gyflwyno astudiaethau achos o’u dinasoedd creadigol. Yma, mae Vicki’n rhannu rhai pethau a ddysgwyd o’r gynhadledd:

Today I'm attending my first conference representing @creativecardiff and it is great to hear Nicole Foster kick off the start of #CKC with opening remarks full of 'hope' 'can do' and 'action'. pic.twitter.com/4idsrLTUn4

— Vicki Sutton (@Sutton00V) September 12, 2019

“Wrth gyrraedd Millennium Square a cherdded tuag at y Watershed, cefais fy nharo ar unwaith gan ba mor eofn mae Bryste yn dathlu ei chreadigrwydd. Mae arwyddion, murluniau, a gosodiadau yn llawenhau yn natur ‘chwilfrydig’ a chreadigol ein dinas gyfagos. Gwelais nifer o sgyrsiau mewnweledol ac ysbrydoledig yn ystod y deuddydd, a chefais fy nharo gan ba mor gyfeillgar a chynnes roedd y croeso – roedd pawb yn ddiolchgar am y cyfle i ddysgu. Roedd yn teimlo’n bwysig camu o swigen Caerdydd a threulio amser y tu allan i Gymru, i glywed canfyddiadau eraill o’n dinas greadigol a chlywed enghreifftiau o gydweithio a chreadigrwydd mewn dinasoedd eraill ledled y DU a thu hwnt. Dyma rai o fy uchafbwyntiau:

Rhannodd Dr Rachel Sara o Brifysgol Gorllewin Lloegr stori Prosiect Ebenezer Gate yn Bedminster. Gofynnodd y prosiect ymchwil y cwestiwn ‘sut y gellir adennill pocedi segur o fannau trefol at ddefnydd y gymuned trwy brosesau dylunio cyfranogol?’ Yn y sgwrs hon cefais fy atgoffa o werth meddwl yn greadigol a chydweithredol am wahanol ddefnyddiau ar gyfer mannau yn y ddinas. Enghraifft wych o sut y gall Prifysgolion weithio mewn ffordd gynhwysol â grwpiau cymunedol, myfyrwyr a phlant er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu dinasoedd nhw. 
 

@DrRachelSara talks about universities' civic role in collaborating with communities to rethink, resist & reimagine the creative city: architecture with, not for #CKC2019 #spatialagency pic.twitter.com/jVCvqHzenY

— Research with Impact (@UWE_Research) September 12, 2019

Yn ystod ail sesiwn y diwrnod, cefais fy nghyflwyno i gysyniad Simon Nicholson o’r ‘un o'r ychydig rai sy’n ddawnus.’ Meddyliais am bwysigrwydd herio pwy sy’n penderfynu pa faterion sy’n bwysig yn y ddinas yn sgil ei astudiaethau mewn addysg a chrefft dylunio. Roedd ei syniadau’n cyd-fynd â rhai o sylwadau Dr Ayona Data i gloi’r diwrnod: “mae clyfrwch yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol.” Roedd hi’n siarad mewn perthynas â syniad y ‘Ddinas Glyfar’ a thrais ‘methiant seilwaith’. 

Gofynnodd y gweithdy gan Rising Arts Agency dan arweiniad penigamp i ni ddychmygu sut rydym yn goroesi ac yn byw bywyd hapus mewn dinas, a sut y gall creadigrwydd ein helpu i gyflawni hynny. Gwnes i feithrin nifer o gysylltiadau newydd yn yr amgylchedd gweithdy rhyngweithiol hwn, a chefais fy nharo gan y cwestiwn ‘pa mor greadigol rydych chi o ddydd i ddydd?’ Mae wedi fy ysbrydoli i fod yn fwy creadigol yn fy arferion fy hun bob dyddRoedd yn ddiddorol clywed yr Athro Andrew Spicer yn cynnig safbwynt cyfredol ar y syniad o ‘Western Powerhouse’ Bryste a Chaerdydd yng ngoleuni agoriad hyb creadigol Channel 4 ym Mryste a chael gwared ar y tollau’n ddiweddar ar Bont Hafren. Roedd yn siarad o blaid pŵer ymchwil prifysgolion i dreiddio’n ddyfnach i’r “hanesion diwylliannol hir a chymhleth sy’n llywio dinasoedd creadigol.” Mae ei sgwrs wedi fy nghyflwyno i arwyddocâd gwaith Caerdydd Creadigol i weithio er mwyn hyrwyddo dyfnder ac ehangder gweithgareddau creadigol yng Nghaerdydd nad yw wedi'i gyfyngu i'r BBC yn unig ac sydd efallai'n rhannol anhysbys o hyd gan weddill y DU.
Mae llawer o'r materion a'r heriau a godwyd yn y gynhadledd yn rhai y mae holl ddinasoedd y DU yn eu hwynebu ar hyn o bryd, gan gynnwys Caerdydd. Rhai enghreifftiau o'r heriau hyn yw tensiynau ynghylch defnyddio gofod ar gyfer pethau fel datblygu tai myfyrwyr yn erbyn datblygu mannau diwylliannol creadigol ac ystyrlon, diffyg mannau creadigol, problemau ynghylch cynaliadwyedd ac ystyried anghenion yn y dyfodol a thwf cynaliadwy. Tynnwyd ar lawer o bethau tebyg a rhannwyd rhwystredigaethau. Fodd bynnag, ar y cyfan roedd y gynhadledd yn obeithiol ac yn cynnig cipolwg ar ddyfodol lle mae dinasoedd yn mesur creadigrwydd ar sail eu hallbwn dinesig a’u effaith ar iechyd a lles nid yn ôl gwerth economaidd yn unig. Roedd pwyslais ar adeiladu ecosystem greadigol lle mae pobl greadigol, academyddion a llunwyr polisïau’n cydweithio tuag at weledigaeth a rennir ac er budd eu dinasoedd.

 

I've been so heartened by how friendly everyone has been at #CKC2019 @wshed - I have a lanyard packed full of new contacts

It feels really important to spend time outside of Wales in this context and hear other's perceptions of Cardiff. pic.twitter.com/ylwnatUlRz

— Vicki Sutton (@Sutton00V) September 13, 2019

Ein huchelgais ar gyfer Caerdydd Creadigol yw adeiladu ecosystem gefnogol a chynhwysol ym mhrifddinas Caerdydd. Trwy roi mecanwaith y gallwn ddod â phobl greadigol, gweithwyr llawrydd, sefydliadau, llunwyr polisïau ac academyddion at ei gilydd drwyddo, rydym yn gobeithio y gallwn ni ddatblygu a chefnogi'r diwydiannau creadigol ymhellach, yn ogystal â mesur eu heffaith werthfawr ar ddiwylliant a chymdeithas y ddinas yn ogystal â'r economi yn awr ac yn y dyfodol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event