Caerdydd Creadigol yng Nghartref Newydd Ffotogallery

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 12 September 2019

Yr wythnos hon mi agorodd Ffotogallery y drysau i'w gartref newydd yn yr Hen Ysgol Sul Fethodistaidd yn Cathays. 


Mae wedi cymryd cryn amser i'r sefydliad ddod o hyd i rywle i’w alw’n gartref, ac fe soniodd y Cyfarwyddwr David Drake a'r Cadeirydd Matthew Talfan Davies am hyn yn eu hareithiau ar y noson agoriadol. 


Dywedodd Matthew: "Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol i ni ystyried nifer o leoedd ar hyd y daith ... ond hir yw pob ymaros" 
 
Llofnododd Ffotogallery, yr asiantaeth ffotograffiaeth genedlaethol i Gymru, les deng mlynedd ac mae'r tîm wedi treulio'r tri mis diwethaf yn ymgartrefu a’i wneud yn addas i’r diben. Maen nhw wedi symud eu swyddfa, eu llyfrgell ac archif, eu cyfleusterau cynhyrchu a’u hadnoddau addysgol i’r adeilad.
 
Wrth siarad am waith caled y tîm er mwyn trawsnewid yr adeilad, dywedodd David: "Roedd cael ein lle ein hunain yn gymaint o rhyddhad, felly roedden ni'n barod i fynd yr ail filltir." 
 
Yn ystod yr agoriad, aethon ni o gwmpas yr adeilad a mwynhau'r ffotograffau. Roedd y waliau'n llawn ffotograffau du a gwyn yn bennaf o Archifau Ffotogallery. Roedd yn cynnwys comisiwn gan David Bowden, gwaith gan y ffotograffydd technegol, John Wiltshire, a phrosiect gan Faye Chamberlain, ffotograffydd o Gaerdydd oedd yn rhan o Ŵyl Diffusion yn 2019. Yr unig waith lliwgar ar y waliau oedd y rhai o gyfres Maciej Dakowicz, Cardiff After Dark, portread trawiadol o fwrlwm Heol Eglwys Fair fin nos. 
 
Mae ffenestri mawr yr eglwys yn golygu bod digon o olau yn llenwi'r ystafell agored o sawl cyfeiriad. Mae hyn, ynghyd â'r waliau gwyn, y dodrefn minimalistaidd a'r ffotograffau du a gwyn yn cyfuno i greu naws chwaethus a digonedd o le. 
 
Ond i David, mae llawer i’w wneud eto. Dywedodd: "Dim dyma'r weledigaeth yn ei chyfanrwydd. Dyma flas ar yr hyn sydd i ddod." 
 

Hyfryd oedd cael gweld cartref newydd @ffotogallery heno. Mae’r gwaith caled wedi dwyn ffrwyth - Llongyfarchiadau i chi gyd. Edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous i ffotograffiaeth yng Nghymru @ffotodavid pic.twitter.com/BgxqIGf37p

— CaerdyddCreadigol | CreativeCardiff (@CreativeCardiff) September 11, 2019

Maen nhw'n bwriadu datblygu cynllun hirdymor ac ymgyrch codi arian er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer y lle yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
 
Wrth siarad am bwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned, dywedodd David: "Cyn i ni ddechrau siarad am yr adeilad, rhaid i ni siarad am y gymuned o'n cwmpas." 
Wrth sôn am y dyfodol, dywedodd David: "Rydyn ni'n credu ei fod yn lleoliad ardderchog ar gyfer cerddoriaeth, dangos ffilmiau, cynadleddau. Rydyn ni hefyd yn bwriadu agor caffi bach a chael trwydded i werthu alcohol oherwydd bydd hyn yn ffordd dda o ddenu cynulleidfaoedd newydd i fwynhau'r ffotograffiaeth."
 
Mae gweledigaeth Ffotogallery ar gyfer eu cartref newydd yn cyd-fynd â'r weledigaeth ar gyfer Cymru. Dywedodd Matthew: "Ein huchelgais yw creu cartref i Ffotogallery yn ogystal â chartref i ffotograffiaeth yng Nghymru."
 

Dewch i gael gwybod rhagor am gartref newydd Ffotogallery yma. Mae'r sefydliad hefyd yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event