Yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Iau 20 Mehefin, cyhoeddwyd mai Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa) gan Manon Steffan Rosyw Llyfr y Flwyddyn 2019. Trefnir y Wobr gan Llenyddiaeth Cymru, y Cwmni Cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru.
Gwahoddwyd Manon Steffan Ros i’r llwyfan yn gyntaf i gasglu Gwobr Barn y Bobl Golwg360, yna i dderbyn Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth, cyn dychwelyd eto i dderbyn prif Wobr y noson sef £4,000 a thlws wedi’i gynllunio a’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones. Cyflwynwyd y Wobr i Manon gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.
Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un tra lwyddiannus i Manon, gan iddi gael ei henwi’n Brif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 wedi iddi gipio’r Fedal Ryddiaith gyda Llyfr Glas Nebo, ac ym mis Mai 2019 fe gyhoeddwyd fod ei nofel Fi a Joe Allen(Y Lolfa) wedi ennill categori Uwchradd Gwobr Tir na n-Og.
Mae Manon yn lenor a dramodydd llawn amser. Mae wedi ysgrifennu dros ugain o lyfrau, ac wedi ennill Gwobr Tir na n-Og bedair gwaith (Trwy’r Tonnau yn 2010; Prismyn 2012; Pluenyn 2017 a Fi a Joe Allen yn 2019). Mae’n dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen, yn wreiddiol a bellach yn byw yn Nhywyn.
Mae Llyfr Glas Neboyn adrodd stori ryfeddol Siôn, ei fam Rowenna, a'i chwaer fach, Dwynwen. Mae'r hanes hynod wedi'i gofnodi mewn llyfr nodiadau glas wrth geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – yr hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.
Dywedodd Dylan Ebenezerar ran y panel beirniadu: “Mae'r tri enillydd wedi ein swyno yn llwyr – ac mae eu crefft a'u creadigrwydd yn disgleirio o bob tudalen. Er y safon amlwg roedd un llyfr yn ein denu yn ôl dro ar ôl tro. Llyfr bach sydd wedi cael dylanwad enfawr yn barod. Mae Manon Steffan Ross wedi ein tywys i fyd sy'n frawychus o gyfarwydd. Mae stori'r teulu bach yn ddoniol ac yn ddwys - yn syml ond yn syfrdanol. Ac yn boenus o bwerus ar adegau.
Mae Llyfr Glas Neboyn glasur modern a gobeithio bydd ei ddylanwad yn amlwg am flynyddoedd i ddod.”
Enillwyr y Categorïau
- Gwobr Farddoniaeth: Cyrraedd a Cherddi Eraill, Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)
- Gwobr Ffeithiol Greadigol: Cymru mewn 100 Gwrthrych, Andrew Green (Gwasg Gomer)
Ar y panel Cymraeg eleni mae’r darlledwr adnabyddus ac awdur chwaraeon, Dylan Ebenezer; Pennaeth Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Cathryn Charnell-White; a’r bardd, awdur a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Idris Reynolds.
Enillwyr Y Gwobrau Saesneg
- Gwobr Saesneg a Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias: Insistence, Ailbhe Darcy (Bloodaxe Books)
- Gwobr Ffuglen Saesneg Prifysgol Aberystwyth: West, Carys Davies (Granta)
- Gobr Ffeithiol Greadigol Saesneg: Moneyland, Oliver Bullough (Profile Books)
- Gwobr Barn y Bobl, a noddir gan Wales Arts Review: Gen, Jonathan Edwards (Seren Books)
I wybod mwy am Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i: www.llyfryflwyddyn.org