Rhaglen Ymlaen! yn cefnogi graddedigion i wireddu eu syniadau busnes creadigol

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 5 April 2019

Bydd rhaglen i helpu graddedigion i wireddu eu syniadau busnes creadigol o fewn gwagleoedd cydweithio yn parhau eleni, yn dilyn blwyddyn prawf llwyddiannus. 

Mae Ymlaen! - cywaith rhwng Caerdydd Creadigol, Rabble Studio a thîm Mentergarwch a Menter Newydd ym Mhrifysgol Caerdydd - wedi ariannu tri busnes newydd drwy gydol y cyfnod prawf; gan ddarparu desg yn Rabble Studio, mentora creadigol a busnes yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio. 

Dyma Jannat Ahmet, Sefydlydd a Phrif Olygydd Lucent Dreaming, yn defnyddio'r cyfle chwe mis i gychwyn cylchgrawn creadigol ar lein ac mewn print. 

Dywedodd: "Os nad oeddwn i wedi cymryd y cyfle yma, byddwn i ar goll, yn trio dod o hyd i swydd gyfarwydd y bydden i'n deall."

Dywedodd Sadia Hameed, un hanner o Lumin gyda Beau Beakhouse: "Fe ddechreuon ni'n meddwl y bydden ni'n fwy o fusnes ond ar ôl cyfarfodydd gyda mentoriaid a llawer o gyngor fe wnaethon ni sylweddoli ein bod ni yma i fabwysiadu model busnes i'n helpu ni weithredu'n well fel cydweithfa gelfyddydol - rydyn ni'n llawer fwy ar lawr gwlad." 

Gwyliwch y fideo cyfan am y prosiect lleoliad gwaith Ymlaen! yma: 

Bydd y rhaglen Ymlaen! yn cael ei rhannu gydag entrepreneuriaid ar draws y sector creadigol a thu hwnt. Os ydych chi'n meddwl am weithio'n llawrydd, cychwyn prosiect cymdeithasol neu lansio eich busnes eich hun, Ymlaen! 

Yn cynnig desg mewn gwagle cydweithio yn ogystal â mentora proffesiynol a chyllid sbarduno, mae lleoliadau gwaith Ymlaen! ar gael i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd trwy becyn Cefnogi Cychwyn Busnes. 

Archebwch sesiwn cyflwyniadol er mwyn cychwyn. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event