Rockfield Sessions a Cherddorion Gorwelion Cymru

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 16 January 2019

Mae'r stiwdio recordio, Rockfield Studios, sydd wedi'i lleoli ym mhentref Rockfield ger Sir Fynwy, yn adnabyddus am recordio traciau rhai o enwogion cerddorol mwyaf y byd. Yn y lleoliad annisgwyl yma, a oedd unwaith yn ffermdy, y bu Queen yn recordio'r gân eiconig 'Bohemian Rhapsody' ac Oasis yn gweithio ar eu ail albwm, '(What's The Story) Morning Glory?'

Mewn rhaglen ddwy-ran wedi'i chyflwyno gan Heledd Watkins, prif gantores y band indi HMS Morris, gwelwn rhai o gerddorion ifanc mwya' cyffrous Cymru yn mentro i'r un lleoliad i recordio eu cerddoriaeth nhw eu hunain. 

Mae'r gyfres o sesiynau stiwdio byw wedi'i chynhyrchu gan Orwelion Cymru ar y cyd a Small and Clever Productions a Hoot Studios ac fe'i cyflwynwyd ar y sgrin fawr yn Cineworld wythnos diwethaf, gyda nifer o ffigyrau adnabyddus sin gerddoriaeth fywiog y ddinas. 

Dywedodd Phillip Moss, cyfarwyddwr Small and Clever, mai dyma oedd un o'r cynyrchiadau mwyaf hwyl iddo weithio arno, ac esiampl o gywaith llwyddiannus. 

DJ Bethan Elfyn sy'n rhedeg Gorwelion Cymru, ymgyrch darparwyd gan BBC Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth newydd, annibynnol a chyfoes yng Nghymru. Bob blwyddyn mae Gorwelion yn dewis 12 cerddor newydd ac yn rhoi'r llwyfan a chefnogaeth iddynt ffynnu yng Nghymru a thu hwnt. Dywedodd Bethan ei bod wrth ei bodd yn gweld y cerddorion ar y sgrîn fawr. 

Here's @AleighciaSings performing Crying No More in a special Rockfield Studios session.

Y gantores reggae unigryw o Gaerdydd, a can wreiddiol.@BBCWales @BBCCymruFyw @Arts_Wales_ @Celf_Cymru #RockfieldSessions pic.twitter.com/MfZri8gzkW

— Horizons / Gorwelion (@HorizonsCymru) January 14, 2019

Ymysg y perfformwyr oedd Nia Wyn gyda 'Turnstiles', Campfire Social o Langollen gyda'u cân 'Oh Atrophy'. Bu'r cerddorion hefyd yn recordio dehongliadau newydd o ganeuon rhai o'r enwogion sydd wedi recordio yno yn y gorffennol gan gynnwys perfformiad dwyieithog o 'Alright', Supergrass gan y band o Gaerfyrddin, Adwaith a fersiwn ddwys o gân Black Sabbath, 'Killing Yourself to Live' gan Marged o Gaerdydd. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad byw gan Himalayas yn y Tramshed, a pherfformiad hudolus gan I See Rivers yng Ngŵyl Rhif 6. Mae'r band, sy'n wreiddiol o Norwy, bellach yn byw yn Ninbych y Pysgod.

Absolutely magical performance from @ISEERIVERS at @festivalnumber6 last year. Catch them on BBC 2 Wales this Tuesday at 10pm as part of the #RockfieldSessions!

Perfformiad lliwgar gan I See Rivers o wŷl Rhif 6 Portmeirion @BBCCymruWales @Arts_Wales_ @Celf_Cymru pic.twitter.com/a5EflwkJMe

— Horizons / Gorwelion (@HorizonsCymru) January 13, 2019

Tiwniwch mewn i wylio Rockfield Sessions ar BBC 2 Cymru am 10pm nos Fawrth, 22 Ionawr. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event