Caerdydd Creadigol yn y Siwper Stomp

Profile picture for user Alys Jones

Postiwyd gan: Alys Jones

Dyddiad: 7 August 2018

Neithiwr (Awst 6), gwelodd Canolfan Mileniwm Cymru cystadleuaeth farddol fwya’r mileniwm: Y Siwper Stomp. Roedd y digwyddiad diddorol hwn yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd, ac yn arddangos talent farddol Cymraeg yn y ddinas mewn ffordd unigryw a ddigri.

Cafodd y noson ei gyflwyno gan Fragdy’r Beirdd, grŵp o feirdd sydd wedi trefnu nosweithiau barddol yng Nghaerdydd ers 2011. Daeth feirdd y Bragdy Llŷr Gwyn Lewis ac Anni Llŷn i’r llwyfan i gyflwyno’r digwyddiad, wedi’i ddilyn gan enillydd coron yr Eisteddfod Genedlaethol Catrin Dafydd. Gyda’i choron ar ei phen, derbyniodd Catrin gymeradwyaeth frwd gan y gynulleidfa oedd ar eu traed yn ei llongyfarch hi.

Roedd naw bardd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn tair rownd, cyn rownd derfynol i enwi’r Siwperstompfardd i eistedd ar stôl y Siwper Stomp yn lle gadair – cipolwg o ba mor wahanol oedd y noson am fod. Roedd yn ddigwyddiad digri nid oedd yn ofn jôcs drwg a rai am yr Eisteddfod ei hun. Llawn adloniant a cherddoriaeth wych gan y band Lleden, roedd Y Siwper Stomp yn noson hwyl ar y maes.

Nid oedd hyn yn noson debygol o wrando ar gerddi, roedd hyn yn llawn comedi a pherfformiadau gwych. Dewisodd sawl fardd i ganu eu cerddi, defnyddio lluniau a fideos neu wisgoedd a phropiau doniol. Ar ddiwedd pob rownd, roedd rhaid i’r gynulleidfa dewis enillydd. Cyn y rownd derfynol cafodd ‘hapfardd’ ei ddewis o’r rhai doedd ddim yn llwyddiannus.

Roedd yn ddifyr gweld cyn-feirdd plant Cymru ‘Aneurig’ – Aneirin Karadog ac Eurig Sailsbury – ar y llwyfan yn sôn am gasau Cyw ac yn cwyno am fod yn rhiant. Nid nhw yn unig ddewisodd y thema hon, wnaeth bardd plant Cymru bresennol Casia William canu fersiwn o’r hwiangerdd ‘Dacw Mam yn Dŵad’ i oedolion, yn sôn am erchyllion mamolaeth. Yn debyg roedd cân ddoniol gan Gwennan Evans am barti pen-blwydd ei mab – oedd ei chefndir comedi yn amlwg.

Thema boblogaidd arall oedd gwleidyddiaeth, gydag Osian Rhys Jones yn sôn am achosi i’r byd mynd yn rhyfedd wrth symud o’i gartref a bwyta yn Greggs. Dewisodd Gwyneth Glyn gwisgo fel Donald Trump a pherfformio cerdd yn ei steil, wnaeth awdur Iwan Rhys cymryd rôl gwleidydd yn fflyrtio gyda’i etholwyr yn hollol lythrennol a chafodd Rhys Iorwerth hunllef rhy gyfarwydd am wleidyddion barus.

Roedd cerdd Elinor Wyn Reynolds yn sôn am ei lletchwithdod, bod gwell ganddi hi unrhyw beth na cwtch. Roedd y gynulleidfa wir wedi eu diddanu gan Gruffudd Owen, wnaeth ganu am heneiddio yn ifanc, o golli gwallt i beidio gallu cael coffi ar ôl dri o’r glôch. Roedd y gynulleidfa bron yn unfrydol wrth ddewis Gruffudd Owen fel bardd buddugol yn ei rownd.

Y beirdd wnaeth llwyddo i’r rownd olaf oedd Rhys Iorwerth, Gwennan Evans, Gruffudd Owen a’r hapfardd Elinor Wyn Reynolds. Yn fuddugol dros bawb oedd Gruffudd Owen gyda’i gerdd ‘Steddfod Wahanol’, cân ddoniol am gwynion yr Eisteddfod yn y Bae. Soniodd ei fod byth am ennill cadair yn yr Eisteddfod os mae ei gerddi yn parhau i fod mor anghwrtais, felly roedd yn briodol bod Gruffudd yn eistedd ar y stôl ar ddiwedd y noson.

Darganfyddwch rhagor am nosweithiau barddol a cyfrol newydd Bragdy’r Beirdd yma.

Roedd y Siwper Stomp yn ddigwyddiad difyr, digri a hollol wahanol. Mewn gwir ysbryd yr Eisteddfod roedd yn gyfle unigryw i weld perfformiadau gan wahanol feirdd o gwmpas y wlad. Dangosodd y digwyddiad talent farddol yn y ddinas mewn ffordd ddoniol a chofiadwy.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.