VRSW #5

28/11/2019 - 17:00
Orchard Media and Events Group
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Grŵp cwrdd ar gyfer y clwstwr technoleg trochol yn Ne Cymru. 

Ynglŷn â'r digwyddiad yma

Sesiwn ar gyfer y clwstwr technoleg trochol yn Ne Cymru yw VRSW wedi’i threfnu gan Caerdydd Creadigol, mewn partneriaeth ag Orchard Media a Events Group Ltd.

Bydd sesiwn nesaf Realiti Rhithwir De Cymru (VRSW) yn cwrdd yn Orchard Media and Events Group Ltd, ddydd Iau 28. Defnyddio realiti rhithwir yn y broses cynhyrchu ffilm a theledu fydd y pwnc trafod.

Bydd y sesiwn yn dod â’r Clwstwr ynghyd i glywed gan Dan May, cyd-sefydlydd Painting Practice y bydd yn siarad am weithio gyda thechnoleg trochol i greu cyfres ffantasi HBO a BBC One, His Dark Materials.

Fe gydsefydlodd Dan May Painting Practice am fod cyfuno byd yr adran gelf ag effeithiau gweledol yn ddyhead sy'n agos iawn at ei galon. Mae'r dyhead hwn wedi bod yn amlwg yn yr ystod eang o swyddi mae wedi bod ynddyn nhw yn ystod y 12 mlynedd y mae'r cwmni  wedi bodoli. Yn ddiweddar, fe gwblhaodd waith ar ffilm Andy Serkis, Jungle Book, Beauty and the Beast Disney, Watership Down ac ar hyn o bryd mae'n gyfarwyddwr artistig ar addasiad newydd o His Dark Materials. Mae Dan hefyd yn hoffi Animeiddio. Yn 2014, fe gafodd y cyfle i fod yn Ddylunydd Cynhyrchiad gyda Passion Pictures ar hysbyseb pum munud Cwpan y Byd Nike - "The Last Game". Os nad yw'n syllu ar sgrîn cyfrifiadur mae fel arfer yn syrffio, yn crwydro neu’n paffio.

Dros y blynyddoedd mae Dan wedi bod yn llwyddiannus drwy gael ei enwebu ar gyfer Bafta am ddylunio cynhyrchiad ar gyfer Black Mirror, ac fe enillodd Bafta am y VFX gorau am ei waith ar Day of the Triffids, a Gwobr Art Directors Guild am ei waith ar Gravity.

Yna, mi fydd Marc Real o Lolfa Arloesedd y BBC yn rhannu astudiaeth achos ynghylch defnyddio camera 360 i greu cynnwys llinellog. Bydd hefyd cyfle am sesiwn holi ac ateb, i rannu gwybodaeth, i rwydweithio ac i glywed gan arbenigwr yn y diwydiant yn ogystal â rhoi cynnig ar ambell i brofiad yn ein marchnad.

ARCHEBU YMA. 

Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, cysylltwch â mailto:creativecardiff@cardiff.ac.uk