Rhywbeth Creadigol? 2:2 - Sut I Annog Ffasiwn Meddylgar? 

Dyma bodlediad i weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Yn ail gyfres Rhywbeth Creadigol? rydyn ni'n mynd â'r sgyrsiau ar-lein ac yn trafod gwaith creadigol a diwylliant yn y byd digidol. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 October 2020

I weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Bydd 'Rhywbeth Creadigol?' yn dod â gweithwyr ac arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol ynghyd i drafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, gan graffu ar yr ymchwil ddiweddaraf. Yn yr ail gyfres rydyn ni'n mynd â'r sgyrsiau ar-lein ac yn trafod gwaith creadigol a diwylliant yn y byd digidol. 

Yn ôl adroddiad byd-eang mewn i fasiwn cynaliadwy yn 2019 roedd bron i 80% o bobl yn poeni am broblemau amgylcheddol ffasiwn a bron i 66% yn gefnogol o ffasiwn gynaliadwy ond roedd diffyg parodrwydd i dalu mwy. Yn ail bennod yr ail gyfres rydyn ni'n sgwrsio am ffasiwn, cynaliadwyedd a chyfrifoldeb gyda'r arlunydd Efa Lois sydd â phodlediad am siopau elusennol a Sylvia Davies sy'n rhedeg y busnes ecogyfeillgar, Eto Eto. Yn y bennod hon rydyn ni'n siarad am ymgymryd â meddwlgarwch ffasiynol, cyfrifoldeb brandiau i fod yn gynaliadwy, uwchgylchu a sut y gallwn ni fel unigolion ofalu am ein planed ac eraill trwy brynu llai a thrysori pob eitem sydd gennym. 

Mae Efa'n arlunydd sydd wedi creu gwaith ar gyfer Tafwyl ac mae'n ymddiddori mewn prynu dillad ail-law a siopa elusennol fel ateb i'w chariad at ffasiwn a'r blaned. Yn y bennod hon mae'n siarad am foneddigaidd siopau elusennol ac edrych tua dyfodol gobeithiol lle bydd pobl yn teimlo llai o angen i brynu a phrynu. Mae Efa'n cyflwyno podlediad o'r enw Werth Y Byd lle mae hi a'i ffrind yn sgwrsio am siopa elusennol, ailgylchu, ffasiwn a'r blaned. Gwrandewch ar Werth Y Byd yma. 

Dewch i wybod mwy am waith Efa, cymerwch olwg ar ei Instagram a'i dilyn ar Twitter.

Mae Sylvia'n rhedeg cwmni annibynol eco-gyfeillgar o'r enw Eto Eto sy'n ail-bwrpasu ac uwch-gylchu tecstiliau y byddai'n mynd i wastraff fel arall. Trwy ei chwmni Eto Eto mae Sylvia'n trawsnewid hen bethau mewn i rhai newydd, ar hyn o bryd mae’n creu bagiau o diwbiau beic tyllog, hen dentiau ac ymbarelau. Mae Sylvia'n rhan o gymuned The Sustainable Studio yng Nghaerdydd. Yn y bennod hon mae'n siarad am newidiadau i ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau bod brandiau ffasiwn yn cymryd cyfrifoldeb o safbwynt amgylcheddol a moesol. Cymerwch olwg ar yr holl eitemau mae'n gwerthu yn ei siop. 

Dewch i wybod mwy am waith Sylvia, cymerwch gip ar ei Instagram a'i dilyn ar Twitter.

Gwrandewch ar y bennod gyfan: 

Ymchwil soniwyd amdano yn ystod y bennod:

Dyma bodlediad gan rwydwaith Caerdydd Creadigol ochr yn ochr â’r gymuned greadigol.

Gwrandewch ar bennodau'r gyfres gyntaf yma:  

1:1. Sut Beth Yw Dylanwadu Digidol?

1:2. A Yw Creadigrwydd Yn Ffordd o Fyw?

1:3. Ydy Caerddydd Yn Ddinas Cerddoriaeth?