Campaigns Officer

Salary
£25,400 per annum
Location
Cardiff
Hours
Fixed term
Closing date
27.07.2025
Profile picture for user Welsh National Opera

Posted by: Welsh National Opera

Date: 14 July 2025

Swyddog Ymgyrchoedd

Tymor Sefydlog - 12 Mis 

Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydym yn awyddus i benodi Swyddog Ymgyrchoedd a fydd yn gyfrifol am weithredu gweithgarwch ar draws holl farchnata cynulleidfa a gohebiaeth codi arian ategol WNO, gan weithio'n agos â'r Pennaeth Marchnata a Digidol, y Rheolwr Marchnata ac adrannau eraill i gyfrannu at ymgyrchoedd grymus. Mae'r rôl yn gyfrifol am bob pryniant sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau a chefnogi ar draws gweithgarwch sy'n hyrwyddo ehangder gwaith WNO er mwyn cyflawni targedau capasiti cynulleidfaoedd ac ariannol.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

  • Cefnogi'r gwaith o ddarparu bob ymgyrch a deunydd marchnata a datblygu cynulleidfaoedd
  • Gweithio fel aelod rhagweithiol o'r tîm marchnata i sicrhau y bodlonir yr holl dargedau a Dangosyddion Perfformiad Allweddol, a bod yr ymgyrchoedd yn llwyddiannus.
  • Cefnogi gweithgarwch ymgyrchoedd digidol gan gynnwys ysgrifennu straeon newydd difyr, diweddaru'r wefan, hysbysebion digidol y telir amdanynt a syniadau cynnwys er mwyn sicrhau y gwneir y gorau'n ddigidol o ymgyrchoedd WNO.
  • Cydlynu gweithgarwch e-bost ar gyfer ymgyrchoedd cynulleidfa a chodi arian, yn cynnwys ysgrifennu copi, prawf ddarllen, creu ac echdynnu data, gan ddefnyddio profion A/B i wneud y gorau o fformat a chynnwys.
  • Ymchwilio ac ysgrifennu erthyglau golygyddol diddorol ac ysgrifennu copi ar gyfer cyfathrebiadau ac ymgyrchoedd cynulleidfa WNO.
  • Cydlynu holl farchnata post uniongyrchol yn cynnwys cysylltu â'r cwmni postio ac ymgymryd â'r holl echdyniadau postio o Tessitura. Ymgymryd â'r holl gyswllt data gyda lleoliadau ar gyfer gweithgarwch ymgyrchoedd marchnata yn ôl yr angen.
  • Ysgrifennu briffiau cynhwysfawr a chydlynu prynu cyfryngau ar draws yr holl ymgyrchoedd yn uniongyrchol gyda'r asiantaeth neu berchnogion y cyfryngau.
  • Ysgrifennu briffiau cynllunio hysbysebu manwl ar gyfer gweithgareddau'r ymgyrch a chysylltu gyda dylunwyr er mwyn darparu gwaith celf sy'n cwrdd â therfynau amser.
  •  

Beth fydd ei angen arnoch chi?

Hanfodol

  • Mae chwilfrydedd, brwdfrydedd a sylw i fanylder yn hanfodol.
  • Gallu gweithio'n dda mewn tîm, gyda syniad da o'ch cyfrifoldeb unigol ac yn gallu gweithio ar eich menter eich hun.
  • Profiad o farchnata a chyfathrebu, gorau oll os yw hynny yn y maes Marchnata Celfyddydol ond nid yw hynny'n hanfodol.
  • Profiad o gynllunio a rheoli ymgyrchoedd.
  • Profiad o ysgrifennu copi.
  • Gweithio a rhifau'n hyderus a brwdfrydig.
  • Profiad o weithio gyda chronfeydd data cwsmeriaid.
  • Tuedd i ddysgu cymwysiadau newydd yn gyflym ac i lefel uchel o hyfedredd.
  • Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol.
  • Medrus gyda Word, Excel ac Access.

Dymunol

  • Gallu siarad/ysgrifennu Cymraeg.
  • Profiad o weithio gyda Tessitura.
  • Diddordeb yn y byd opera /cerddoriaeth glasurol/ y celfyddydau.

 

Beth allwn ni ei gynnig i chi?

Cyflog Cystadleuol

Gwyliau Blynyddol
£25,400 y flwyddyn.

Mae gan gydweithwyr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n rhedeg o 1 Medi i 31 Awst.Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn.Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.
Pensiwn Mae'r holl weithwyr yn cael eu hymrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
Aelodaeth Campfa Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.
Gostyngiadau Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda Future Inns yng Nghaerdydd.
Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).
Rhaglen Cymorth i Weithwyr Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.
Gwersi Cymraeg Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.
   

Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg.Os ydych yn dymuno gwneud cais yn Gymraeg, ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na phe byddech yn gwneud cais yn Saesneg.

 

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â Heledd Davies, ar heledd.davies@wno.org.uk

 

Directory

Join the directory

Create a directory profile to share your work and to connect and collaborate with other creatives.