Technoleg Ymgolli De Cymru cyfarfod ar-lein

12/11/2020 - 15:30
Ar-lein
Profile picture for user Vicki Ball

Postiwyd gan: Vicki Ball

VR training

Dysgu o bell a hyfforddiant ymgolli

Dydd Iau 12 Tachwedd 2020

3.30pm - 5.30pm

Cofrestrwch yma i ymuno â'r digwyddiad rhad ac am ddim. 

Mae Technoleg Ymgolli De Cymru yn gyfarfod a drefnir gan Caerdydd Creadigol ar gyfer y clwstwr technoleg ymgolli sydd ar dwf yn ne Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle i rannu gwybodaeth a dysgu ar dechnoleg ddatblygol (realiti rhithwir / realiti estynedig / realiti cymysg) rhwng ymarferwyr technoleg a chreadigol ac amrywiaeth eang o academyddion sy'n defnyddio'r dechnoleg. Ein gobaith yw annog rhwydweithio a chyfleoedd i gydweithio.

Ymunwch â ni yn y cyfarfod ar-lein nesaf lle gallwch ddisgwyl sgwrs arddangos gan:

  • Cineon Training - darparwr hyfforddiant sy'n arbenigo mewn Dysgu Ymgolli a darparu hyfforddiant Perfformiad Dynol a gwasanaeth ymgynghori i amrywiol ddiwydiannau. Maen nhw'n defnyddio ymchwil arloesol ac yn mabwysiadu technolegau ymgolli fel efelychiadau Realiti Rhithwir i ddeall ac optimeiddio ymddygiad dynol mewn amgylcheddau critigol o ran diogelwch a dan bwysau uchel. Maen nhw hefyd yn arbenigo ar gynllunio amgylcheddau dysgu o bell sy'n cynnwys egwyddorion gemeiddio ac efelychu y gellir eu cyrchu dros y rhyngrwyd.

Yna ceir adran Galwadau a Chydweithio yn cynnwys:

Rydym ni'n croesawu'n arbennig y rheini nad ydyn nhw wedi dod i gyfarfod o'r blaen.

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion fel Iaith Arwyddion Prydain, adrodd llais i destun, neu gyfieithu ar y pryd o Saesneg i Gymraeg, ar y ffurflen gofrestru er mwyn i ni allu trefnu cefnogaeth. creativecardiff@cardiff.ac.uk 

Cynhelir y digwyddiad hwn ar declyn cynadledda fideo Zoom. I lawrlwytho Zoom ewch i: https://zoom.us/download. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i ddefnyddio’r platfform hwn, rhowch wybod i ni wrth gofrestru.

Rhagor o wybodaeth am ein cyfranwyr

Sgwrs Arddangos - Ross Lockett-Kirk, Cineon Training

Graddiodd Ross o Brifysgol De Cymru gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn dylunio gemau cyfrifiadurol. Ross yw prif ddatblygwr Cineon Training, yn adeiladu amgylcheddau realiti rhithwir

Galwadau a chydweithio

Bydd Peter Gardom a Dominika Noworolska yn rhannu gwybodaeth am ei brosiect Trawsnewid Cerfluniau a Lleisiau Cymunedol - prosiect treftadaeth-celfyddydau-digidol cymunedol, sy'n cofnodi profiad bywyd pobl yng Nghaerdydd, a defnyddio'r lleisiau hyn i lywio gwaith o gyd-greu profiadau AR yn gysylltiedig â cherfluniau, cofebion ac arteffactau symbolaidd eraill yn y parth cyhoeddus i drawsnewid sut mae pobl yn gallu rhyngweithio a gwneud synnwyr ohonyn nhw yn defnyddio eu dyfeisiau eu hunain.

Bydd cynrychiolwyr o raglen ymchwil a datblygu Clwstwr yn rhannu gwybodaeth ar eu Labordy Syniadau Clwstwr diweddaraf i weithwyr llawrydd a microfusnesau sy’n gweithio yn ne Cymru sydd â’r sgiliau a’r potensial i ddatblygu syniadau arloesol ar gyfer cynnyrch, gwasanaeth neu brofiad newydd yn gysylltiedig â’r sgrin neu newyddion. Mae’r Labordy deuddydd yn cynnig cyfle i archwilio, datblygu a mireinio syniadau newydd gyda chefnogaeth partneriaid PDR Clwstwr, gan fynd â'r cyfranogwyr drwy broses gynllunio.

Arddangosfa

Woman with VR headset

Ar gyfer digwyddiad Technoleg Ymgolli De Cymru, rydym yn ystyried rhoi cyfle i arddangos prosiectau sy’n dangos potensial defnyddio technolegau sydd ar gynnydd yn y diwydiannau creadigol. Gall y prosiectau hyn fod yn brototeipiau, arddangosiadau, rhyddhadau cynnar neu rai llawn, a wnaed gan unigolion neu dimau. Dyma gyfle i chi rannu â’r gymuned ehangach. Dyma alwad agored i brosiectau fod yn rhan o’r arddangosfa yn rhan o ddigwyddiad Technolegau Ymgolli De Cymru ar 12 Tachwedd 2020. Rhaid cyflwyno pob cais cyn 30 Hydref 2020. Ni chaiff unrhyw rai ar ôl y dyddiad hwn eu hychwanegu at yr arddangosfa, ond cân nhw eu cadw ar ffeil ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Bydd yr holl waith ar gael i’r cyhoedd yn rhan o’r arddangosfa.

Llenwch y ffurflen gais os ydych am gyflwyno eich prosiect ar gyfer yr arddangosfa.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event