Mae C&B Cymru yn chwilio am reolwr celfyddydol profiadol i ddarparu ystod o wasanaethau ledled De a Gorllewin Cymru.
Mae'r rôl yn gofyn am effeithlonrwydd, blaengaredd, gwaith tîm, hunan-gymhelliant a'r gallu i ysbrydoli hyder a hygrededd yn rheolwyr busnes a’r celfyddydau.
Oherwydd y cyfyngiadau cyfredol sy'n deillio o'r pandemig COVID-19, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n llawn amser o gartref i ddechrau. Yn ddiweddarach yn 2021, gellir gofyn i ddeiliad y swydd weithio o Swyddfa Caerdydd, yn rhan amser neu'n llawn amser.
Am fanylion pellach a phecyn ymgeisio, dilynwch y ddolen os gwelwch yn dda neu anfonwch e-bost i contactus@aandbcymru.org.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12pm, 1 Chwefror 2021
Dyddiad y cyfweliad: 8-10 Chwefror 2021
Mae Celfyddydau & Busnes Cymru yn ymdrechu i fod yn gyflogwr cyfle cyfartal