Mae Kayleigh yn gweithio fel Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd, yn uned yr Economi Greadigol.
Mae'n canolbwyntio ar ddyfeisio a gweithredu strategaethau i ysgogi cyfathrebu ac ymgysylltu â rhwydwaith Caerdydd Creadigol a rhaglen Clwstwr.
Cyn hyn bu Kayleigh yn gweithio fel newyddiadurwr ar bapur lleol a swyddog cyfathrebu digidol yn elusen canser plant CLIC Sargent. Mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa gyda Scottish Television (STV) yn gweithio fel newyddiadurwr ar-lein. Bu hefyd yn cyflwyno'n fyw ar y sianel deledu leol STV Glasgow.