Gweinyddwr y Bwrdd a Chynorthwyydd Personol i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol

Cyflog
£23,945 - £26,606 (yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol) y flwyddyn (pro rata)
Location
Caerdydd
Oriau
Part time
Closing date
08.02.2021
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 26 January 2021

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu pŵer opera byw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, cymdogaethau ac arlein.

Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am Weinyddwr Bwrdd a Chynorthwyydd Personol i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol i ddarparu gweithgareddau gweinyddol i Fwrdd Cyfarwyddwyr WNO, Bwrdd Cyfarwyddwyr CTS a phwyllgorau cysylltiedig a chwblhau cymorth personol ac ysgrifenyddol i'r Cyfarwyddwr Cyffredinol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau gweinyddol ardderchog gan gynnwys cymryd uwch gofnodion a rhoi sylw rhagorol i fanylion, gyda phrofiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa brysur. Mae profiad o ddelio ag uwch reolwyr a rhanddeiliaid allanol, lefel uchel o gyfrinachedd, doethineb, diplomyddiaeth a phroffesiynoldeb a'r gallu i gyfathrebu ar bob lefel yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae profiad neu ddiddordeb mewn Llywodraethu a rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig. Rydym yn annog pobl o unrhyw gefndir i wneud cais am swyddi gwag. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas ac sy’n dwyn ynghyd pobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i helpu i siapio’r hyn a wnawn a sut y gweithiwn. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), a phobl anabl sy’n dymuno ymgeisio.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event