Cynorthwyydd Marchnata

Cyflog
£16,537 - £18,373 y flwyddyn (yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol)
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
12.02.2021
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 20 January 2021

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu pŵer opera byw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, cymdogaethau ac ar-lein. 

Mae’r adran farchnata yn gweithio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd i’n gwaith yn ogystal â chadw cysylltiad â’n cynulleidfaoedd presennol. Gwnawn hyn drwy ein gwefan a chyfathrebiaeth ddigidol eraill, cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu, marchnata uniongyrchol a llawer mwy. 

Rydym yn dymuno penodi Cynorthwyydd Marchnata Dwyieithiog [Cymraeg a'r Saesneg] sy'n uchelgeisiol, yn gadarnhaol ac yn barod i ddysgu, i gynorthwyo a chefnogi'r tîm marchnata trwy weinyddu a gweithredu gweithgareddau ar draws ymgyrchoedd marchnata integredig, mewnwelediad y gynulleidfa a rheoli print. 

Bydd gennych lefel uchel o lythrennedd a rhifedd, ac yn rhoi sylw arbennig i fanylder, meddu ar wasanaeth cwsmer arbennig a sgiliau rhyngbersonol, gyda’r gallu i gyfathrebu ar bob lefel. Byddwch yn gallu gweithio ar nifer o dasgau mewn amgylchedd prysur, bodloni terfynau amser tynn a rhoi sylw da i fanylder. Mae profiad o weithio mewn adran farchnata, defnyddio systemau CMS gwefannau, a diddordeb amlwg mewn opera a/neu gerddoriaeth glasurol yn ddymunol. 

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig. Rydym yn annog pobl o unrhyw gefndir i wneud cais am swyddi gwag. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas ac sy’n dwyn ynghyd pobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i helpu i siapio’r hyn a wnawn a sut y gweithiwn. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), a phobl anabl sy’n dymuno ymgeisio.