Cynhyrchydd: Gŵyl y Llais

Cyflog
£30,600
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
12.03.2021
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 12 February 2021

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i heffeithio’n sylweddol gan bandemig y Coronafeirws, a caewyd ein drysau ym mis Mawrth 2020. Mae ein hadeilad yn parhau i fod ar gau, ond rydym yn gobeithio ailagor yn y dyfodol agos ac y bydd modd i ni greu refeniw masnachol unwaith yn rhagor. Rydym wedi derbyn cyllid brys i’n helpu ni oroesi’r argyfwng a’n helpu ni weithredu’n hamcanion er gwaetha’r diffyg refeniw masnachol. 

Er bod pandemig y Coronafeirws wedi cau ein theatr a’n hadeilad, rydym yn gweithio’n galed tu ôl i ddrysau caeedig, er mwyn cadw’r celfyddydau’n fyw.

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Rydyn ni’n chwilio am Gynhyrchydd: Gŵyl y Llais I ymuno a’n Tîm Celfyddydau a Chreadigol. 

Bydd  y rôl yn gweithio gyda’n partneriaid ac artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi’i sefydlu, neu’n dod i’r amlwg, yng Ngŵyl y Llais rydym yn creu profiadau byw unigryw sy’n dathlu’r llais yn ei holl ffurf. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Chynhyrchydd Creadigol Gweithredol yr Ŵyl, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, a’r Tîm Celfyddydau a Creadigol, bydd Cynhyrchydd: Gŵyl y Llais yn gyfrifol cefnogi cynllunio a chyflawni’r Ŵyl yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gan gydweithio â phob adran o fewn y Ganolfan gan sicrhau cyfathrebu a threfnidiaeth fewnol gryf. Bydd y Cynhyrchydd yn gyfrifol am oruchwylio swyddogaeth weithredol yr Ŵyl a bydd yn rheoli unrhyw staff yr ŵyl sy’n llawrydd.

Am fwy o fanylion, plîs ewch i ein wefan: https://www.wmc.org.uk/cy/troedyn/gyrfaoedd/ 

“Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg”

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event