Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu

Cyflog
22,154 pro rata
Location
Caerdydd
Closing date
29.01.2021
Profile picture for user laurasom

Postiwyd gan: laurasom

Dyddiad: 21 January 2021

Mae cyfathrebu â myfyrwyr wrth wraidd beth rydym yn ei wneud yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac rydym o hyd yn chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol i wneud hyn yn effeithiol. Os ydych chi'n teimlo'n angerddol am farchnata a chyfathrebu, ag a diddordeb yn gweithio gyda chynulleidfa ifanc, amrywiol, yna efallai mai dyma’r rôl i chi. Rydym am recriwtio unigolyn bywiog a brwdfrydig i ymuno â'n tîm Marchnata a Chyfathrebu.

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â’r Tîm Marchnata a Chyfathrebu gan y bydd y sefydliad yn ymgymryd â’r dasg o ail-frandio yn 2021 a datblygu strategaeth sefydliadol newydd ar gyfer 2022-2025.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda’r Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, Dirprwy Bennaeth Marchnata a Chyfathrebu, ein tîm dylunio graffeg talentog, ein Cydlynydd Marchnata Digidol a’n Cydlynydd y Gymraeg, er mwyn darparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu i’r sefydliad. Byddwch yn cynllunio a darparu ymgyrchoedd marchnata effeithiol i hyrwyddo’r amrywiaeth o wasanaethau a digwyddiadau y mae Undeb y Myfyrwyr yn ei gynnig, yn ogystal â chynorthwyo gydag adeiladu proffil y sefydliad drwy’r wasg a chysylltiadau cyhoeddus.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event